Mae’r Aelod Seneddol Elfyn Llwyd wedi cyhuddo’r awdurdodau Prydeinig o weithredu’n “ffiaidd” wrth atal dwy ferch o Batagonia rhag cael dod i mewn i’r wlad ac i’r Eisteddfod Genedlaethol.
Dyma’r ail dro i Shirley Evans ac Evelyn Calcabrini gael eu gwrthod ac yn ôl AS Meirionnydd Nant Conwy, sydd hefyd yn Gadeirydd Pwyllgor Gwaith yr Eisteddfod, mae’r achos mewn peryg o droi’n “broblem ddiplomyddol”.
Fe fydd yn sgrifennu at yr Ysgrifennydd Tramor, David Miliband, a’r Ysgrifennydd Cartref, Alan Johnson, gan gyhuddo’r Llywodraeth o ragfarn yn erbyn pobol Gymreig y Wladfa.
“Maen nhw wedi poeri yn wyneb yr Ariannin ac wedi poeri yn wyneb y ddwy ferch,” meddai. “Mi fydda’ i’n dweud wrthyn nhw fod teimladau cryf iawn led led Cymru ynglŷn â hyn.”
Yr Ariannin o blaid
Mae’r achos yn waeth yr ail dro, meddai, oherwydd …
• Roedd wedi cael cytundeb y gweinidog sy’n gyfrifol am fewnfudo Phil Woolas i sicrhau fod papurau’r ddwy ferch yn cael eu trin yn gyflym.
• Mae’n ymddangos, er gwaetha’ hynny, mai’r awdurdodau Prydeinig yn Efrog Newydd oedd wedi atal y marched rhag dod i wledydd Prydain.
• Roedd llysgenhadaeth yr Ariannin wedi cysylltu gydag Elfyn Llwyd ac wedi mynegi cefnogaeth lwyr.
Rhagfarn
“Mae hyn hefyd yn mynd yn groes i’r hyn y mae’r Llywodraeth yn ei wneud yng Nghymru, trwy roi arian at ddysgu Cymraeg yn y Wladfa,” meddai Elfyn Llwyd. “Ond mae’r Llywodraeth yn Llundain yn gwrthod gadael iddyn nhw ddod yma i ymarfer yr iaith.”
Naill ai roedd gan y Llywodraeth bolisi o beidio â gadael i unrhyw fyfyrwyr o’r tu allan i’r Undeb Ewropeaidd ddod i mewn i Gymru heb swydd, meddai, neu roedden nhw’n euog o ragfarn.
Llun: Shirley Evans (ar y chwith) gyda’i thad ar ddiwrnod ei phriodas