Cynyddu maint testun

Golwg360



Rhybudd parcio stadiwm newydd Caerdydd

Awst 7, 2009 17:38

Mae cefnogwyr pêl droed Caerdydd wedi eu rhybuddio y bydden nhw’n wynebu dirwyon pe baen nhw’n tagu strydoedd y ddinas gyda pharcio anghyfreithlon ar ddiwrnodau’r gemau.

Bydd Stadiwm Dinas Caerdydd yn cynnal gêm gystadleuol gyntaf y tymor yfory yn erbyn Scunthorpe.

Ond fe fydd yr heddlu yn cadw llygaid yn Nhreganna am broblemau parcio.

Mae nifer o drigolion Treganna wedi cwyno yn y gorffennol am broblemau gyda chefnogwyr pêl droed yn parcio mewn llefydd peryglus ac ar ben palmentydd ar ddiwrnodau gemau.

Gyda’r stadiwm newydd yn dal 6,000 mwy na Pharc Ninian, mae pobl yn pryderu y bydd y problemau parcio yn gwaethygu.

Mae ‘na lefydd parcio cyfyngedig yn y stadiwm, ond gyda thocyn tymor am barcio yno yn costio £130, mae’n debyg na fydd llawer am dalu hynny yn ystod y dirwasgiad economaidd.

Mae’r awdurdodau yn annog cefnogwyr i barcio’n synhwyrol neu ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus.