Mae enwau’r cwpwl a’r lodjer a fu’n gyfrifol am ladd Babi P wedi cael eu cyhoeddi. Ac mae teuluoedd y tri wedi dweud eu bod yn haeddu cael eu cosbi’n llym.

Mae mam Babi P, Tracey Connelly, 28, a’i chariad, Steven Barker, 33, (dde)  o Penshurst Road, Tottenham, gogledd Llundain, wedi cael eu henwi ar ôl dileu gorchymyn llys, a oedd yn eu gwarchod.

Y trydydd dyn oedd Jason Owen, 37 oed, ond, bellach fe ddaeth yn amlwg mai ei enw gwreiddiol oedd Barker a’i fod yn frawd i Steven Barker.

Roedd y tri wedi eu cael yn euog o achosi neu ganiatáu marwolaeth y babi 17 mis oed, Peter Connelly, ar ôl hanes hir o’i gam-drin. Daethpwyd o hyd iddo yn farw yn ei ystafell ym mis Awst 2007; roedd wedi dioddef 50 anaf difrifol.

Fe ddaeth yn amlwg fod Tracey Connelly ei hun wedi cael plentyndod anhapus gyda’i mam yn gaeth i gyffuriau ac alcohol.


“Bwystfilod”

Yn y papurau heddiw, mae teuluoedd y tri yn eu condemnio.

Yn y Sun, fe ddywedodd mam-gu Babi P, May O’Connor, nad oedd am fynd i weld ei merch yn y carchar. “Fe wnaethon nhw ladd fy ŵyr ac maen nhw’n haeddu bob peth sydd o’u blaenau,” meddai. “Fe gaiff hi bydru yn uffern.”

Yn y Mirror, roedd tad y ddau frawd yn dweud nad oedd yn poeni beth oedd yn digwydd iddyn nhw. “Mae pawb yn credu eu bod yn fwystfilod a dw i ddim yn credu’n wahanol.”

Fe ddaeth yn amlwg fod y ddau wedi ymosod ar eu mam-gu eu hunain yn yr 1990au ond fe fu farw hithau cyn iddyn nhw wynebu achos llys.

Mewn achos arall ynglŷn â digwyddiad ychydig cyn marwolaeth Babi P, roedd Steven Barker hefyd wedi ei gael yn euog o dresio merch ddwy oed. Cafodd ddedfryd o garchar am oes, a bydd yn y carchar am o leiaf 10 mlynedd.

Beirniadu’r cyngor lleol

Mae Cyngor Haringey wedi cael eu beirniadu’n hallt am eu methiant i warchod Peter Connelly, gan fod enw’r babi ar y Gofrestr Amddiffyn Plant cyn ei farwolaeth.

Y Cyngor oedd wedi gofyn am y gorchymyn llys i atal cyhoeddi’r enwau – er mwyn rhoi cyfle iddyn nhw ddod o hyd i gartrefi’r tri brawd a chwaer a oedd gan Babi P.