Fydd dim rhaid i bob ffarmwr defaid yng Nghymru brynu offer electronig ar gyfer tagio defaid.
Mae’r Gweinidog Materion Gwledig, Elin Jones, wedi cael rhywfaint o gonsesiynau mewn cynllun Ewropeaidd sy’n dod i rym ym mis Ionawr.
O ganlyniad, meddai, fe fydd rhai o ffermwyr Cymru yn gallu parhau i ddefnyddio cofnodion ar bapur.
Er ei bod hi’n erbyn y cynllun, mae Elin Jones yn dweud y bydd rhaid gwneud y gorau o’r rheolau newydd.
Mae’r rheiny’n golygu fod rhaid defnyddio tagiau electronig mewn gwledydd lle mae mwy na 600,000 o ddefaid – mae gan Gymru 9 miliwn.
Ond un o’r prif gonsesiynau yw’r hawl i barhau i dagio ŵyn lladd-dy o dan 12 mis oed heb dag electronig.
‘Gweithredu’n ymarferol’
“Dw i ddim yn cefnogi’r ddeddfwriaeth, ac mae pawb yn gwybod hynny”, meddai Elin Jones. “Ond mae angen i ni ganolbwyntio ar weithredu’r rheolau yn y modd mwyaf ymarferol.
“Mae’r consesiynau’n golygu na fydd angen i nifer o ffermwyr brynu offer electronig, na chadw cofnodion electronig. Yn lle hyn, fe fydd nifer yn gallu cadw cofnodion ar bapur.”
Codi amheuon am gywirdeb y dechnoleg y mae’r gwrthbleidiau. Fydd hi ddim yn helpu i reoli heintiau, meddai’r Ceidwadwr, Brynle Williams; mae’r offer yn anghywir 20% o’r amser meddai Mick Bates o’r Democratiaid Rhyddfrydol.