Cynyddu maint testun

Golwg360



Seremoni i ddathlu Cytundeb Lisbon

Rhagfyr 2, 2009 08:45

Fe fu prif swyddogion yr Undeb Ewropeaidd yn cynnal seremoni neithiwr i ddathlu gweithredu Cytundeb Lisbon yn dod i rym – ac fe wnaethon nhw hynny yn Lisbon.

Fe ddaeth y cytundeb newydd i rym ddoe ar ôl naw mlynedd o gecru ymysg y 27 gwlad. Mae wedi ei greu er mwyn rhoi mwy symleiddio’r ffordd o wneud rhai penderfyniadau a rhoi mwy o lais i’r undeb wrth drafod gyda gwledydd eraill.

Cafodd y seremoni ei chynnal ar lan afon Tagus ym mhrifddinas Portiwgal lle cafodd y cytundeb ei greu ddwy flynedd yn ôl. Cafodd logo’r cytundeb ei daflunio ar adeilad hanesyddol cyfagos.

Daeth y cyfan i ben gyda sioe dân gwyllt ar gyfer y cannoedd o westeion, gan gynnwys prif weinidogion Sweden a Sbaen.

Dywedodd Arlywydd Comisiwn Ewrop Jose Manuel Barroso mai’r cytundeb oedd y penllanw ar 20 mlynedd o hanes Ewrop ers cwymp Wal Berlin yn 1989. “Mae Cytundeb Libson yn symbol o Ewrop unedig, rydd a ddemocrataidd,” meddai.

Roedd pryder gan nifer o’r gwledydd y byddai’n creu un wladwriaeth anferth ar draul y gwledydd unigol – ond roedd yn fersiwn llawer gwannach o gynigion cynharach.

Dywedodd Herman van Rompuy, a fydd yn cael ei urddo’n Arlywydd cyntaf yr Undeb Ewropeaidd ar 1 Ionawr, bod y cytundeb wedi bod yn “siwrne hir a stormus”. “Fe fydd yn caniatáu i ni chwarae ein rhan ar lwyfan y byd,” meddai.