Enillydd y Fedal Ryddiaith eleni yw un o olygyddion newydd y cylchgrawn llenyddol Taliesin.
Ac un sialens, meddai, fydd sicrhau ei fod yn symud “yn gryf” i mewn i’r byd digidol.
Fe fydd Siân Melangell Dafydd o’r Bala yn rhannu’r gwaith gyda’r awdures Angharad Elen o Landwrog.
Maen nhw’n dilyn dwy wraig arall, y nofelydd Manon Rhys a’r bardd Christine James, sydd wedi bod yn golygu’r cylchgrawn ers 10 mlynedd.
“R’yn ni’n croesawu’r golygyddion newydd ac yn edrych ymlaen at ddegawd lwyddiannus arall i’r cylchgrawn llenyddol gorau yn yr iaith Gymraeg,” meddai Peter Finch, Prif Weithredwr yr Academi, y corff llenyddol sy’n cyhoeddi Taliesin
“Dw i’n ddiolchgar iawn i Manon a Christine am eu gwaith disglair dros y blynyddoedd, lle mae Taliesin wedi mynd o nerth i nerth.”
Ymateb y ddwy newydd
Fe ddywedodd Siân Melangell Dafydd wrth Golwg360 mai un o’r sialensiau mwyaf fydd “cyflawni disgwyliadau” a “datblygu’r cylchgrawn”.
“Un sialens yw ceisio sicrhau symudiad cryf i’r digidol – yn ogystal â sicrhau bod lle i’r cylchgrawn yng nghalonnau’r bobl” meddai.
Ymhlith gobeithion eraill, mae eisiau mynd â’r cylchgrawn “i wledydd eraill” gan geisio “sicrhau fforwm drafod fywiog”.
“Nid rhywbeth elitaidd yw Taliesin i fod,” meddai, “ond rhywbeth i bobol ifanc anelu tag ato.”
Mae’n gobeithio gweithio gydag awduron wrth gyflwyno’u gwaith a chynnig “gwaith mwy heriol mewn ffordd greadigol”.
‘Gwefr’
Yn ôl Siân Melangell Dafydd, roedd hi’n cofio’r dydd pan dderbyniodd lythyr gan Manon Rhys yn derbyn stori fer i gael ei chyhoeddi yn Taliesin am y tro cyntaf “…a’r wefr o fod a darn o waith rhwng cloriau’r cylchgrawn.
“Mae’r wefr heddiw, wrth feddwl am y gwaith y gall Angharad a minnau ei wneud yn enw Taliesin, yn arbennig o gyffrous.
“Rydym yn cymryd yr awenau mewn cyfnod difyr, wrth i Taliesin wynebu ei hanner can mlwyddiant yn 2011. Mae’r ddwy ohonom ar dân i weld ein syniadau’n cael eu gwireddu, ac i fod yn rhan o gymuned ehangach Taliesin.”
Roedd cydolygu Taliesin yn fraint aruthrol, meddai Angharad Elen. “Wedi’r cwbl, dyma’r cylchgrawn â’m cyflwynodd ac a fu’n ffenest i mi i fyd llenyddiaeth Gymraeg yn ogystal â’m hannog i gyhoeddi gwaith ar ddechrau fy ngyrfa.”
Y ddwy newydd – y cefndir
Fe enillodd Siân Melangell Dafydd Fedal Ryddiaith Eisteddfod Genedlaethol Meirion a’r Cyffiniau 2009 gyda’i chyfrol Y Trydydd Peth (Gomer, 2009). Erbyn hyn mae’n gweithio ar ei liwt ei hun, yn rhannu’i hamser rhwng Cymru a Pharis, lle mae’n ymchwilio ar gyfer nofel. Yn ogystal â’r Fedal Ryddiaith eleni, enillodd Goron Eisteddfod Gadeiriol Llanegryn yn 1995, ac yn 1998 a 1999 fe enillodd Goron yr Eisteddfod Ryng-golegol. Fe enillodd Ysgoloriaeth Lên Ryngwladol Tŷ Cyfieithu yn 2009.
Yn ogystal â gweithio fel Rheolwr Llenyddol Sgript Cymru, mae Angharad Elen wedi bod yn braslunio cyfresi drama i gwmni teledu Cwmni Da. Bu hefyd yn Arholwr Allanol ar fodiwlau sgriptio ar gyfer sgrin a theledu ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth ac mae wedi cyd-feirniadu gwobr Meyer-Whitworth ar gyfer dramâu newydd i’r Arts Council of England, 2005.
Llun: Sian Melangell Dafydd