Cynyddu maint testun

Golwg360



Rhaid newid y gyfraith

Rhagfyr 8, 2009 12:36

Dylan Iorwerth yn ymateb i’r newyddion am Mohammad Asghar – yr AC rhanbarthol cynta’ i droi côt…

Dyma lun y dyn a ddylai fod yn AC tros Ddwyrain De Cymru – Colin Mann, cynghorydd Plaid Cymru yng Nghaerffili – a’r trydydd ar eu rhestr yn y rhanbarth.

Mae penderfyniad Mohammad Asghar i droi at y Ceidwadwyr wedi dangos bod angen newid yng nghyfraith y Cynulliad.

Bellach, mae miloedd o bobol a bleidleisiodd i Blaid Cymru yn cael eu cynrychioli gan Dori a gan un sydd, yn ôl pob golwg, yn credu’n gwbl groes i’r Blaid ar eu polisi pwysica’ – datganoli ac annibyniaeth.

Ddylai hynny ddim bod yn bosib. I blaid y mae pobol yn pleidleisio yn y rhestrau rhanbarthol, nid i unigolyn. Mewn gwirionedd, mae miloedd o bobol Dwyrain De Cymru wedi colli eu pleidlais am flwyddyn a hanner.

Yn Nhŷ’r Cyffredin, mae’n wahanol. Unigolyn sy’n sefyll ac yn ennill ac yn dewis mynd o dan enw plaid a derbyn y chwip. Mae trefn y Cynulliad yn wahanol – ond, yn anffodus, dyw’r gyfraith hyd yn hyn ddim yn cydnabod hynny.

O dan y drefn fel y mae, mae gan Mohammad Asghar yr hawl i gadw ei sedd ond mater hawdd fyddai newid a rhoi’r hawl i’r blaid benodi AC newydd (o dan rai rheolau).

Yn ôl. cyn Gwnsel Cyffredinol y Cynulliad, Winston Roddick, gogoniant y gyfraith ar hyn o bryd yw ei bod yn syml. Fe allai fod yn anodd mynd yn ôl, meddai, efallai ddwy neu dair blynedd wedi etholiad.

Efallai y byddai amodau’r nesa’ ar y rhestr wedi newid – fe allai cyflwr ei iechyd fod wedi newid; efallai na fyddai eisiau cymryd y sedd.

Ond mae ffordd o amgylch hynny i gyd. Ac mae symlrwydd a hwylustod i’r awdurdodau yn llawer llai pwysig na democratiaeth.

Sut fyddai’r Ceidwadwyr yn teimlo pe bai un o’u haelodau nhw yn croesi at Lafur neu’r Blaid Gomiwnyddol?

Fe allech chi hyd yn oed gael AC rhanbarthol yn penderfynu gadael un o’r pleidiau mawr ac ymuno â’r BNP a chadw ei sedd.

Ydi pawb yn hapus ar hynny?