Mae cyfarwyddwr criced Morgannwg, Matthew Maynard, wedi arwyddo cytundeb newydd i aros gyda’r clwb tan 2011.
“Rwy’n hapus iawn i barhau i weithio gyda’r tîm y tymor nesaf, ac mae ein cynlluniau ar gyfer 2010 yn gyffrous”, meddai Maynard.
Mae’r capten Jamie Dalrymple ynghyd ag Adam Shantry hefyd wedi ymrwymo i Forgannwg am y ddwy flynedd nesaf.
Dywedodd Maynard ei fod yn falch bod Dalrymple wedi arwyddo i barhau yn gapten: “Mae Jamie yn arweinydd gwych a does dim amheuaeth y bydd yn chwarae rhan allweddol i helpu ni cyrraedd ein targedau ar gyfer y tymor,” meddai Maynard.
Gobeithion
Mae Jamie Dalrymple wedi dweud ei fod yn awyddus i barhau i adeiladau ar y cynnydd a wnaeth Morgannwg yn ystod y tymor diwethaf.
“Fe ddangosodd y tymor diwethaf ein bod yn dîm anoddach ei guro. Mae gyda ni lawer i’w wneud eto, ond rwy’n ffyddiog fod gyda ni’r tîm yn ei le i gyflawni ein gobeithion.”
Mae Adam Shantry wedi dweud bod yna awyrgylch arbennig o fewn y clwb a’i fod yn falch iawn ei fod o wedi arwyddo cytundeb newydd.
Dywedodd Maynard bod Shantry wedi perfformio’n dda’r tymor diwethaf a’i fod yn awyddus i’w helpu i ddatblygu dros y ddwy flynedd nesaf.
“Mae’r garfan yn cryfhau bob blwyddyn a gydag ambell wyneb newydd gan gynnwys Jim Allenby, mae gennym ni lawer i edrych ymlaen ato,” meddai Matthew Maynard.