Cynyddu maint testun

Golwg360



‘Cerbyd i fy uchelgais oedd Plaid Cymru’

Rhagfyr 9, 2009 16:13

Mae Mohammed Ashgar yn cyfaddef yn gwbl agored ei fod wedi dewis Plaid Cymru fel ffordd gyflym o gael dod yn wleidydd.

Wrth ddatgan ei fod yn ymuno gyda’r Ceidwadwyr ddydd Mawrth, dywedodd unig aelod croenddu’r Cynulliad ei fod yn cefnu ar Blaid Cymru er mwyn dychwelyd “at ei wreiddiau” a gwella’i obeithion o gael ei ail-ethol yn 2011.

Wedi i Gylchgrawn Golwg ei herio am ymuno â phlaid Sosialaidd sy’n credu mewn annibyniaeth, eglurodd Mohammed Ashgar bod Plaid Cymru yn ffordd rwydd iddo wneud ei farc mewn gwleidyddiaeth.

“[Heb ymuno â Phlaid Cymru] byddwn i wedi bod yn berson coll mewn gwleidyddiaeth,” meddai. “Mae mor syml â hynny. Arhoses i cyn hired ag yr oeddwn i eisiau. Mae’n amser da nawr achos mae’r Ceidwadwyr yn symud i’r cyfeiriad cywir, yn enwedig o dan David Cameron.”

Aelod Cynulliad rhanbarthol yw Mohammed Ashgar, yn ail ar restr Plaid Cymru yn Nwyrain De Cymru i’r Dirprwy Weinidog dros Dai, Jocelyn Davies.

Er bod pobol yn pleidleisio am blaid ac nid am y person, does dim bwriad gan yr AC ymddiswyddo wrth newid ei liw gwleidyddol. Mae’n dweud ei bod hi’n agos rhwng Plaid Cymru a’r Ceidwadwyr yn etholaeth Dwyrain De Cymru beth bynnag, gan i Blaid Cymru ei chipio oddi ar y Ceidwadwyr yn 2007.

“Roedd gan y Ceidwadwyr yr ail sedd [restr] yn y dechrau beth bynnag ac fe enillon ni [ym Mhlaid Cymru] gyda llai na 400 pleidlais. Ond [gyda’r] Ceidwadwyr, fe fydda’ i’n ail ar y rhestr eto. Fe welwn ni wahaniaeth mewn blwyddyn a hanner,” meddai Mohammed Ashgar.

‘Angen newid‘

Mae cadeirydd Plaid Cymru, John Dixon, wedi datgelu nad oedd ymadawiad Mohammed Ashgar yn “sioc” iddo, a bod angen ail edrych ar y ffordd y mae Plaid Cymru yn dewis ymgeiswyr.

“Mae angen newid ein proses ar gyfer ychwanegu enwau aelodau i’r rhestr ymgeiswyr,” meddai ar ei flog.

“Mae’r digwyddiadau ddoe yn amlygu’r angen am drafodaethau mewnol ynglyn a’r modd yr ydym ni’n dewis, hyfforddi a pharatoi ymgeiswyr.

“Mewn gwirionedd dyw ein hagwedd tuag at ddewis ymgeiswyr heb newid ers y 60au a’r 70au, pan oedd rhaid gorfodi pobol i sefyll am seddi anobeithiol, ac roedden ni’n cyfarch unrhyw wirfoddolwr gyda breichiau agored.”

Darllenwch weddil y stori yng Nghylchgrawn Golwg 10 Rhagfyr