Mae Morgannwg yn cynnal trafodaethau i arwyddo cyn fowliwr cyflym Awstralia, Shaun Tait ar gyfer y tymor nesaf.
Roedd Cyfarwyddwr Criced Morgannwg, Matthew Maynard, eisoes wedi dweud bod y clwb am ychwanegu bowliwr cyflym at y garfan cyn y tymor newydd.
Shaun Tait fyddai ail chwaraewr tramor y Dreigiau, ar ôl iddyn nhw sicrhau bod Mark Cosgrove o Awstralia yn dychwelyd i chwarae iddyn nhw am dymor arall.
Mae Morgannwg yn gobeithio sicrhau llofnod Tait erbyn diwedd yr wythnos.
Hoe dros dro
Fe fyddai Tait yn ychwanegu profiad i’r garfan ar ôl chwarae 22 o gemau undydd dros Awstralia yn ogystal â thair gêm brawf – gan gynnwys dwy yn erbyn Lloegr yng Nghyfres y Lludw 2005.
Gêmau undydd a gemau byr oedd gwendid mawr Morgannwg yn ystod y tymor diwetha’ ac fe chwaraeodd Tait ran flaenllaw wrth i Awstralia ennill Cwpan y Byd yn 2007.
Ym mis Ionawr 2008, fe wnaeth y bowliwr cyflym gyhoeddi ei fod yn cymryd hoe o chwarae oherwydd blinder.
Dychwelodd i’r gêm yn 2009 a chwarae dros Awstralia yn erbyn Seland Newydd ym mis Chwefror.
Mae Morgannwg eisoes wedi cadarnhau bod Maynard ynghyd â Jamie Dalrymple ac Adam Shantry wedi arwyddo cytundebau dwy flynedd newydd.