Cafodd Prif Weinidog yr Eidal, Silvio Berlusconi, ei daro yn ei wyneb gan ddyn â cherflun bychan yn ei law ar ddiwedd rali ym Milan heno.
Cafodd dyn 42 oed ei arestio ar unwaith ar ôl yr ymosodiad.
Roedd lluniau o Mr Berlusconi i’w gweld ar y teledu gyda gwaed o dan ei drwyn, ar ei geg ac o dan un llygad. Digwyddodd yr ymosodiad ar ôl iddo draddodi araith hir ac egnïol i gefnogwyr ei blaid.
Er na chredir ei fod wedi cael ei anafu’n ddrwg, mae meddygon wedi penderfynu ei gadew i mewn yn yr ysbyty dros nos er mwyn cadw llygad arno a chynnal profion ar ei ên.
Cafodd y dyn sy’n cael ei holi ei enwi fel Massimo Tartaglia, 42.
Digwyddodd yr ymosodiad wythnos ar ôl i ddegau o filoedd o Eidalwyr orymdeithio’n heddychlon trwy Rufain ddydd Sadwrn diwethaf yn galw am ei ymddiswyddiad.
Mae llawer o drigolion y wlad wedi cael eu cythruddo gan yr hanesion parhaus am gamweddau ariannol a rhywiol y Prif Weinidog.
Llun: Silvio Berlusconi ar ôl cael ei daro yn ei wyneb ym Milan heddiw (AP Photo/Livio Anticoli)