Mae Morgannwg wedi cadarnhau bod y bowliwr cyflym Shaun Tait wedi arwyddo ar gyfer y Cwpan 20 pelawd y tymor nesaf.
Shaun Tait yw ail chwaraewr tramor y Dreigiau – a’r ail o Awstralia. Maen nhw eisoes wedi sicrhau y bydd Mark Cosgrove yn dychwelyd i chwarae iddyn nhw am dymor arall.
“Rwy’n edrych ‘mlaen i ymuno gyda Morgannwg y tymor nesaf, yn enwedig cael chwarae yn Stadiwm Swalec,” meddai Shaun Tait, a fydd yn ymuno gyda nhw ar ddechrau’r ymgyrch 20 pelawd ac a fydd ar gael trwy gydol y gystadleuaeth.
“Fe fydd yn gyffrous cael cwrdd â’r garfan a chwarae gyda fy nghydwladwr, Mark Cosgrove.”
Dywedodd Cyfarwyddwr Criced Morgannwg, Matthew Maynard, bod Tait yn chwaraewr o’r radd flaenaf ac yn enw byd enwog.
“Mae’n un o fowlwyr cyflymaf y byd ac fe fydd yn dod â chydbwysedd i’r garfan ugain pelawd gan fod gyda ni eisoes fatwyr sy’n gallu cosbi bowlwyr y gwrthwynebwyr.”
Profiad
Mae Shaun Tait wedi chwarae 22 o gemau undydd dros Awstralia yn ogystal â thair gêm brawf – gan gynnwys dwy yn erbyn Lloegr yng Nghyfres y Lludw 2005.
Gemau undydd a gemau byr oedd gwendid mawr Morgannwg yn ystod y tymor diwetha’ ac fe chwaraeodd Tait ran flaenllaw wrth i Awstralia ennill Cwpan y Byd yn 2007.
Ym mis Ionawr 2008, fe gyhoeddodd y bowliwr cyflym ei fod yn cymryd hoe o chwarae oherwydd blinder.
Ond fe ddychwelodd i’r gêm yn 2009 a chwarae dros Awstralia yn erbyn Seland Newydd ym mis Chwefror.