Cynyddu maint testun

Golwg360



Elfyn Llwyd yn galw am gyflymu’r broses o roi fisas i fyfyrwyr

Rhagfyr 15, 2009 10:12

Mae arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, Elfyn Llwyd, wedi galw ar y Llywodraeth i gyflymu’r broses o roi fisas i fyfyrwyr.

Yn y gorffennol, mae Elfyn Llwyd AS Meirionnydd Nant Conwy, wedi cyhuddo’r awdurdodau Prydeinig o weithredu’n “ffiaidd” wrth atal dwy ferch o Batagonia rhag cael dod i mewn i’r wlad ac i’r Eisteddfod Genedlaethol.

Cafodd Shirley Evans ac Evelyn Calcabrini O Batagonia eu gwrthod ddwy waith rhag cael dod i Gymru.

Yn ystod cwestiynnau’r Swyddfa Gartref yn Nhy’r Cyffredin, fe ddywedodd Elfyn Llwyd, (Ddydd Llun, 14 Rhagfyr)

“Mae’r profiad wedi bod yn un chwerw tu hwnt i’r merched ifainc hyn ac rwy’n gobeithio na chaiff ei ailadrodd.”

“Adlewyrchu’n ddrwg”

“Mae wedi adlewyrchu’n ddrwg ar Gymru’n rhyngwladol, er bod y penderfyniad dros y fisas y tu allan i reolaeth Llywodraeth Cymru’n llwyr,” meddai Elfyn Llwyd.

“Mae disgwyl i ymgeiswyr fisas wneud taith 40 awr i Buenos Aires o’r Chubut yn y Wladfa. Yna, mae’n nhw cael eu gorfodi i aros am fis arall wrth i’w ffurflenni gael eu danfon i Efrog Newydd i’w prosesu,” meddai.

Fe ddywedodd bod y “saga” wedi “dangos pa mor wael mae’r ceisiadau hyn yn cael eu trin.”