Fe fydd ffermwyr Cymru’n wynebu bil o filiynau o bunnoedd yn y flwyddyn newydd ac, yn ôl y Ceidwadwyr, fe allai hynny wthio rhai allan o’r diwydiant.
Mae Aelod Seneddol Ewropeaidd y Torïaid yng Nghymru, Kay Swinburne, yn dal i brotestio yn erbyn rheolau newydd a fydd yn gorfodi ffermwyr i dagio defaid gyda nod electronig.
Fe ddaw’r rheol newydd i rym ar Ionawr 1 ac, yn ôl Kay Swinburne, fe fydd yn taro Cymru’n arbennig o galed gan fod tua un o bob deuddeg o holl ddefaid yr Undeb Ewropeaidd ar ffermydd Cymreig.
‘I’r wal’
Mae hi’n dweud y bydd pob tag ar ddafad newydd yn costio £1.50 gyda chost ychwanegol am beiriannau i ddarllen y tagiau.
Nod y tagio yw gwarchod rhag clefydau ond, yn ôl y Ceidwadwyr, fydd dim lles ychwanegol yn dod o’r system newydd.
“Dyw’r drefn ddim wedi torri, ond mae’r Undeb Ewropeaidd yn ceisio’i thrwsio,” meddai Kay Swinburne. “Fe fydd rhai ffermwyr yn cael eu gwthio i’r wal ac fe fydd hynny’n golled i ni i gyd. Ffermwyr y tir uchel yn arbennig sy’n helpu i gynnal ein golygfeydd.”
Roedd y Gweinidog Materion Gwledig, Elin Jones, a Llywodraeth Cynulliad Cymru hefyd wedi gwrthwynebu’r tagio gorfodol.