Wrth i ymgyrch yr Etholiad Cyffredinol ddechrau o ddifri (dim ond pum mis i fynd bois), mae un arall o wendidau mawr y drefn wedi dod i’r amlwg.
Oherwydd natur ryfedd y gwahanol lywodraethau yng ngwledydd Prydain, mae peryg i bobol Cymru gael eu gwthio o’r neilltu. Ac mae Lloegr yn fwy pwysig nag erioed.
Fe fyddwn ni’n gorfod pleidleisio mewn etholiad, heb wybod yn iawn beth fydd yr oblygiadau i ni a heb allu dylanwadu o ran y polisïau allweddol.
Nhw nid ni
Heddiw, mae’r Santes Theresa, sori David Cameron, arweinydd y Torïaid, wedi gwneud cyhoeddiad mawr am y Gwasanaeth Iechyd a’i fwriad i ganolbwyntio arian ar ardaloedd tlawd.
Ond os bydd y Ceidwadwyr yn ennill Etholiad Cyffredinol ar sail polisïau o’r fath, does dim sicrwydd o gwbl – dim peryg hyd yn oed – y byddan nhw’n berthnasol i Gymru.
Fe fydd hyn yn wir am y rhan fwya’ o bolisïau cartref y pleidiau mawr Prydeinig – polisïau ar gyfer Lloegr yn unig fyddan nhw. Ond y rheiny fydd yn cael eu defnyddio i apelio aton ninnau.
Mi fydd y pleidiau, mae’n siŵr, yn cyhoeddi maniffestos Cymreig ond fydd y rheiny’n cael fawr ddim sylw a fyddan nhw’n cael dim effaith o gwbl ar ddelwedd Brown, Cameron a Clegg.
Ar ben hynny, does dim sicrwydd – na thebygrwydd hyd yn oed – mai’r blaid sy’n ennill yr Etholiad Cyffredinol fydd yn llywodraethu yng Nghymru.
Amherthnasol
Mewn geiriau eraill, mae peryg y bydd pobol Cymru yn pleidleisio un ffordd neu’r llall oherwydd set benodol o bolisïau sy’n gwbl amherthnasol i ni.
Nid problem gyda’r Etholiad ydi hyn ond enghraifft o ddiffyg sen a rhesymeg y drefn fel y mae. Yn fwy nag erioed, mae San Steffan yn Senedd Brydeinig sydd dan sawdl Lloegr.
Nid problem datganoli ydi hyn, ond diffyg datganoli a’r methiant i osod Lloegr ar yr un lefel â thair gwlad arall y Deyrnas Unedig.
Yr unig ffordd i gael etholiad teg yw bod pawb ym mhob rhan o wledydd Prydain yn pleidleisio ar yr un lefel.
Mae hynny’n golygu bod rhaid i Gymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon (tra bydd hi) gael llywodraethau gyda’r un grymoedd, a llywodraeth ffederal ac Etholiad Cyffredinol i benderfynu ar y pethau sy’n gyffredin.