Mae Castell-nedd wedi arwyddo cyn chwaraewr canol cae Caerdydd a Wolves, Kevin Cooper.
Mae Cooper hefyd wedi chwarae i Derby, Stockport, Wimbledon, Sunderland, Norwich a Chasnewydd gyda chlybiau wedi talu ffioedd o £2m amdano.
Fe fydd Kevin Cooper yn ychwanegu profiad helaeth i’r garfan wrth i Gastell-nedd ymdrechu i ddal fyny gyda’r clybiau ar frig yr Uwch Gynghrair.
Daw hyn ar ôl i reolwr y clwb, Andrew Dyer, gyhoeddi bod ymosodwr addawol Grimsby, Chris Jones wedi arwyddo ar gytundeb ar fenthyg tan ddiwedd y tymor.
Aberystwyth
Mae Aberystwyth wedi arwyddo chwaraewr canol cae’r Seintiau Newydd, Conall Murtagh ar gytundeb ar fenthyg.
Arwyddodd gyda chlwb Park Hall ym mis Ionawr 2009 wedi cyfnod yn chwarae i Wrecsam.
Chwaraeodd yn gyson i’r Seintiau Newydd am weddill y tymor diwethaf gan sgorio yn rownd derfynol Cwpan y Gynghrair yn erbyn Bangor.
Ond mae’r chwaraewr sydd wedi cynrychioli Gogledd Iwerddon ar lefel dan 21 wedi dioddef cyfres o anafiadau sydd wedi’i gyfyngu i bedwar ymddangosiad i’r Seintiau Newydd y tymor hwn.
Mae’r gŵr o Ulster hefyd wedi chwarae i Ballymean Utd, Crusaders, Hearts, Raith Rovers, Cei Connah a’r Rhyl yn ystod ei yrfa.
Gwobrau
Mae rheolwr Bangor, Nev Powell wedi cael ei enwi’n Rheolwr y Mis ar ôl ennill pob un o’u pedwar gêm ym mis Rhagfyr.
Mae’r cyfnod llwyddiannus yma wedi codi clwb Ffordd Farrar i’r wythfed safle yn yr Uwch Gynghrair, gyda’r tîm yn sgorio 16 gôl yn eu buddugoliaethau dros Gaersws, Y Drenewydd , Y Bala a Phorthmadog.
Mae amddiffynnwr y Seintiau Newydd Steven Evans wedi ennill Chwaraewr y Mis. Cafodd y chwaraewr rhyngwladol ei enwi’n seren y gêm mewn tair gêm i’w glwb yn ystod mis Rhagfyr.