Gari Melville fu’n gwrando ar raglen newydd ar Radio Cymru, sy’n gosod her a hanner i rai o’n rocers. Dyma ei sylwadau yn Y Babell Roc yn Golwg yr wythnos hon …

Yn yr hen ddyddiau, os oedd rhywun yn gallu adeiladu tŷ dros nos ar dir comin, ac roedd mwg yn dod o’r simdde, nhw oedd yn berchen ar y tir yma erbyn y bore. Rhyw fath o “squatter’s rights” felly.

Yn ystod y gyfres hon, yn lle gwneud tŷ, y dasg yw recordio EP, i’w ryddhau ar y we.

Mae gyda’r cerddorion ddeuddeg awr yn unig i gwblhau’r dasg.

Mae dwy raglen eisoes wedi ymddangos, y cyntaf yn cyfuno aelodau o’r grŵp hip-hop Pentagram (Ed Holden ac MC Hoax) gyda Gwibdaith Hen Frân (y basydd Robbi Buckley), a’r ail yn gosod Geraint Lovgreen ac Iwan Llwyd gyda Lisa Jên o 9bach.

I fod yn hollol onest, roedd y rhaglen gyntaf yn dipyn o siambls, ond serch hynny yn ddifyr tu hwnt.

Yn y diwedd, recordiwyd tair cân, ond roedd y cerddorion yn amlwg wedi blino’n lân erbyn y diwedd.

Doedden nhw heb baratoi yn ddigon trylwyr o flaen llaw, a recordiwyd dim ond tair cân ac nid y pedair oedd angen.

Serch hynny, roedd hon yn rhaglen addysgiadol. Roedd clywed y cerddorion yn son am sut oeddent yn defnyddio samples yn eu cerddoriaeth yn hynod o ddiddorol.


* Unnos – nos Fercher, 9.00-10.00, C2 BBC Radio Cymru. Neu ewch i’r wefan i wrando eto