Mae chwe chriw tân wedi llwyddo i achub dyn 40 stôn o ddwyrain Lloegr ôl iddo ddioddef trawiad ar y galon.
Yn ôl llefarydd ar ran y Gwasanaeth Tân ac Achub, fe wnaeth chwe chriw tân roi’r dyn, sydd heb ei enwi, ar stretsier a’i godi allan drwy’r ffenestr.
Fe gafodd y dyn o King’s Lynn, Norfolk ei godi allan o ffenestr llawr cyntaf dydd Mawrth ar ôl iddo ddechrau cwyno ei fod o’n teimlo’n sâl, yn ôl llefarydd ar ran Gwasanaeth Tân ac Achub Norfolk.
Fe ddioddefodd y dyn ataliad y galon wrth gael ei achub ac fe gafodd rhagor o feddygon eu galw i’r safle i roi triniaeth frys iddo.
Mae llefarydd ar ran Ysbyty Queen Elizabeth wedi dweud fod y dyn mewn cyflwr sefydlog ond yn ddifrifol wael.