Cynyddu maint testun

Golwg360



Tait yng ngharfan Awstralia

Chwefror 4, 2010 16:36

Mae chwaraewr newydd Morgannwg, Shaun Tait wedi cael ei ddewis yng ngharfan Awstralia i wynebu Pacistan mewn gêm ugain pelawd yfory.

Arwyddodd Tait i’r Dreigiau i chwarae yng gystadleuaeth ugain pelawd yr haf yma.

Mae wedi chwarae yn dda i Dde Awstralia ac wedi ei ddewis i chwarae yng ngharfan 13 dyn Awstralia ar gyfer y gêm ar Faes Criced Melbourne.

Mae’n hwb i’r chwaraewr ar ôl iddo roi’r gorau i chwarae criced yn 2008 oherwydd blinder.

Fe fydd Tait yn gobeithio bod yn rhan o garfan Awstralia ar gyfer Cwpan ugain pelawd y Byd yn India’r Gorllewin sy’n cychwyn ar ddiwedd mis Ebrill.

Mae Morgannwg yn cychwyn cystadleuaeth y Tlws ugain pelawd yn erbyn Swydd Caerloyw ar 4 Mehefin.