Cynyddu maint testun

Golwg360



Cosbi llanc am roi bochdew mewn microdon

Chwefror 5, 2010 08:32

Bydd llanc yn cael ei ddedfrydu heddiw ar ôl rhoi bochdew mewn microdon.

Plediodd y bachgen 16 oed o Corby, yn Swydd Northampton, yn euog i un cyhuddiad o achosi dioddefaint diangen i anifail.

Dywedodd mudiad gwarchod anifeiliaid yr RSPCA bod y bochdew gwyn blwydd oed wedi ei gymryd at y milfeddyg mis Mawrth y llynedd. Ond roedd hynny 26 awr ar ôl y digwyddiad.

Dywedodd llefarydd bod y cnawd ar un o goesau ôl yr anifail wedi ei losgi i ffwrdd a’r asgwrn yn dangos.

Roedd y milfeddyg wedi cymryd yn ganiataol y byddai organau’r anifail wedi eu niweidio felly cafodd y bochdew ei roi i gysgu.

Fe fydd y bachgen – nad yw’n bosib ei enwi – yn cael ei ddedfrydu yn llys ieuenctid Kettering.

(Llun: Lucas Hermann)