Cynyddu maint testun

Golwg360



Prynhawn yn dda, y nos ddim cystal

Chwefror 5, 2010 15:42

Mae’r trefnwyr yn falch na wnaethon nhw gnslo Eisteddfod Garndolbenmaen a’r Cylch – er eu bod nhw wedi ystyried gwneud hynny ar ôl iddi fwrw eira’n drwm.

Ond yn ôl yr Ysgrifennydd, Rose A Jones, fe gawson nhw gyfarfod “llwyddiannus iawn yn y prynhawn” yn neuadd y pentrefc ddydd Sadwrn,

Ond, doedd cyfarfod yr hwyr “ddim hanner cystal” oherwydd eu bod nhw’n “brin o gystadleuwyr” a hynny am fwy nag un rheswm – mewn gwrthgyferbyniad llwyr â llynedd, meddai.

Y beirniad Cerddoriaeth oedd Sian Meinir, Caerdydd a Dolgellau; Esyllt Tudur Llanrwst oedd yn beirniadu’r Llefaru; Dennis Davies Llanrwst oedd yn beirniadu Llenyddiaeth; Karen Owen o Minffordd oedd yn beirniadu’r Arlunio, a Nigel Hughes Porthmadog oedd yn beirniadu Ffotograffiaeth.

Pat Jones, Chwilog oedd yn cyfeilio yn y prynhawn a Tudur P. Jones, Towyn yng Nghyfarfod yr hwyr.

Cerddoriaeth

 

1af

Meithrin a Derbyn dan 6

Osian Wyn, Y Ffôr

Blwyddyn 1-2

Nel Evans, Cwm Pennant

Blwyddyn 3-4

Deio Huws, Llandwrog

Blwyddyn 5-6

Lois Gruffudd, Bryncir

Blwyddyn 7-11

Bethan, Trefor, Ynys Mon