Mae criw o Seland Newydd wedi llwyddo i godi pump crât o wisgi a brandi oedd wedi eu claddu mewn rhew yn yr Antarctig ers dros 100 o flynyddoedd.
Roedd y poteli wedi bod yn y rhew ers taith yr anturiaethwr Prydeinig Sir Ernest Shackleton, yn ystod degawd cyntaf yr ugeinfed ganrif.
Roedden nhw yn y rhew o dan gaban yr anturiaethwr yn agos at safle o’r enw Cape Royds.
Cafodd y cratiau eu darganfod yn y rhew yn 2006, ond dim ond yn ddiweddar y dechreuodd yr ymdrech i’w tynnu allan.
Rhew gyda’u wisgi
Yn wreiddiol, cred y tîm o Ymddiriedolaeth Treftadaeth Antarctig Seland Newydd oedd mai dim ond dau grât oedd yno o wisgi McKinlay and Co.
Ond darganfuwyd pump crât oedd hefyd yn cynnwys brandi gan The Hunter Valley Distillery Limited Allandale, o Awstralia.
Mae arweinydd y tîm, Al Fastier, wedi dweud bod y rhew wedi cracio rhai o’r cratiau ac wedi ffurfio tu fewn iddyn nhw.
Ond dywedodd eu bod nhw’n gallu clywed hylif yn symud wrth symud y cratiau sy’n golygu ei fod o’n debygol fod rhai o’r poteli dal mewn un darn.
Y cwmni diod Whyte & Mackay sydd berchen ar McKinlay and Co bellach, ac maen nhw am gynnal cyfres o arbrofion ar y ddiod, i weld os oes modd ei ail-greu.
‘Anrheg o’r nefoedd’
Dywedodd Richard Paterson o Whyte and Mackayfod fod y darganfyddiad yn “anrheg o’r nefoedd” i’r sawl sy’n caru wisgi.
“Gan nad yw’r rysáit gwreiddiol yn bod rhagor, fe allai fod yn ddarganfyddiad hanesyddol,” meddai.
Cafodd y cratiau eu gadael yn 1909 pan wnaeth Sir Ernest Shackleton a’i griw droi yn ôl o’i daith sgïo i Begwn y De, oherwydd diffyg bwyd.
Cafodd y tîm o Seland Newydd ganiatâd i adfer rhai o’r poteli, ond bydd rhaid i’r gweddill gael eu cadw dan amodau cadwraethol.