Cynyddu maint testun

Golwg360



Shane: Cymru a Lloegr eisiau profi pwynt

Chwefror 6, 2010 10:33

Fe fydd gan Gymru a Lloegr bwynt i’w brofi yn gêm agoriadol Pencampwriaeth y Chwe Gwlad heddiw, meddai Shane Williams.

Bydd Cymru yn anelu am eu pedwaredd fuddugoliaeth yn olynol dros Loegr yn y bencampwriaeth – camp sydd heb ei gyflawni ers y 70au.

Mae’r ddau dîm wedi colli chwaraewyr allweddol oherwydd anafiadau – Cymru heb y propiau Gethin Jenkins a Matthew Rees, a’r mewnwyr Dwayne Peel a Mike Phillips, a Lloegr heb y canolwr Riki Flutey.

Mae hyfforddwr Lloegr wedi cynnwys y chwaraewyr chwim Delon Armitage, Mathew Tait a Danny Care er mwyn sicrhau y bydd ei dim yn llawer mwy ymosodol nag oedden nhw yn yr hydref.

“Ry’n ni’n gwybod ei fod e’n mynd i fod yn frwydr,” meddai’r asgellwr Shane Williams, sydd angen dwy gais arall i gyrraedd 50 dros ei wlad.

“Mae Lloegr yn dîm da iawn, ac mae ganddyn nhw bwynt i’w brofi drwy faeddu Cymru adref.

“Mae gyda nhw rhai o’r bois cyflymaf sy’n chwarae’r gêm, felly maen nhw’n gobeithio sgorio ceisiau. Fe fydd Lloegr yn dîm gwahanol iawn.”

‘Hyder’

Mae Cymru yn gobeithio sicrhau buddugoliaeth debyg i gêm 2008 yn Twickenham, pan wnaethon nhw frwydro’n ôl o 16-6 i lawr hanner amser er mwyn sicrhau’r fuddugoliaeth.

“Nid Twickenham yw’r lle hawsaf i fynd ac ennill, ac rydyn ni’n parchu chwaraewyr Lloegr,” meddai hyfforddwr ymosodol Cymru, Rob Howley.

“Mae’n bwysig ein bod ni’n cadw’r hyder ac yn cofio ein bod ni wedi llwyddo yn y 14 mis diwethaf. Mae Lloegr, a ni, yn cydnabod ei fod o’n gem anferth.

“Ry’n ni a Lloegr wedi cyrraedd pwynt ble mae’n rhaid i’r ddau dîm brofi eu hunain. Ac fe fydd y ddau dîm yn teimlo effaith ennill neu golli am weddill y gystadleuaeth.”