Cynyddu maint testun

Golwg360



Lloegr yn trechu Cymru yn Twickenham

Chwefror 6, 2010 18:55

Mae Lloegr wedi trechu Cymru 30 – 17 yn Twickenham ar ôl dwyn cais ym munudau olaf y gêm.

Roedd Cymru wedi brwydro’n ôl o 20-3 ar ei hol hi yn fuan ar ôl hanner amser gyda cheisiau gan Adam Jones a James Hook.

Ond gyda’r sgôr yn 20-17 a Chymru’n gweld cyfle i ennill y gêm fe wnaeth Delon Armitage ryngipio pas Stephen Jones a rhyddhau James Haskell am ei ail gais o’r gêm.

Serch hynny y Cymro Alun Wyn Jones oedd seren y gêm i Loegr, ar ôl iddo faglu Dylan Hartley yn gwbl ddiangen a chael ei yrru i’r gell gosb. Sgoriodd Lloegr 17 pwynt yn ei absenoldeb.

Fe wnaeth ceisiau bob ochor i hanner amser gan James Haskell a Danny Care sicrhau mai Lloegr oedd mewn rheolaeth gydol y gêm, ac fe giciodd Jonny Wilkinson 15 pwynt.

Perfformiad gwael oedd hi gan y ddau dîm ar y cyfan, gyda chamgymeriadau elfennol yn torri ar lif y chwarae. Roedd llinell Cymru yn llanast llwyr.

Ciciodd Stephen Jones gic gosb a dau drosiad ond methodd James Hook ddwy gic o bellter.

Wnaeth Lloegr ddim ymosod fel yr oedd eu hyfforddwr Martin Johnson wedi ei addo, ond diolch i gamgymeriadau Cymru doedd dim angen gwneud.

Marciau allan o ddeg

Cymru:

LEE BYRNE: Dim lot o gyfle i ymosod, ond roedd ei gicio’n gywir. 6/10.

TOM JAMES: Roedd o’n gorfforol yn y dacl cyn cael ei ddisodli gan Leigh Halfpenny. 6

JAMES HOOK: Fe wnaeth o sgirio cais ond fel arall doedd ei sgiliau ymosodol ddim yn amlwg. 8

JAMIE ROBERTS: Llond llaw i amddiffyn Lloegr. 7

SHANE WILLIAMS: Dim digon o feddiant i wneud dim. 6

STEPHEN JONES: Sgoriodd gic gosb a dau drosiad ar ôl cymryd drosodd gan James Hook. 6

GARETH COOPER: Penderfynol ond ddim cystal â Peel a Philips. 6

PAUL JAMES: … ddim cystal â Gethin Jenkins. 7

GARETH WILLIAMS: … ddim cystal â Matthew Rees. 5

ADAM JONES: Fe wnaeth o sgorio cais a rheoli Tim Payne yn y sgrym. 7

ALUN-WYN JONES: ‘Twpsyn’, yn ôl Warren Gatland. 2

LUKE CHARTERIS: Llanast yn y llinell. 4

ANDY POWELL: Mae o’n dal i roi gormod o giciau cosb i’r tîm arall. 5

MARTYN WILLIAMS: Perfformiad gwych yn yr hanner cyntaf ond dyw’r dyn ddim yn gallu ennill gemau ar ei ben ei hun. 7

RYAN JONES: Roedd angen iddo ddeffro Cymru ar brydiau. 7

Eilyddion:

Bradley Davies – 5

Huw Bennett – 6

Leigh Halfpenny – 6

Richie Rees – 5

Jonathan Thomas – 5

Lloegr

DELON ARMITAGE -6

MARK CUETO – 7

MATHEW TAIT – 7

TOBY FLOOD – 6

UGO MONYE – 7

JONNY WILKINSON – 7

DANNY CARE – 8

TIM PAYNE – 6

DYLAN HARTLEY – 7

DAVID WILSON – 7

SIMON SHAW – 7

STEVE BORTHWICK – 7

JAMES HASKELL – 8

LEWIS MOODY – 7

NICK EASTER – 8

Eilyddion:

Dan Cole – 7.

Steve Thompson – 6.

Louis Deacon – 6.

Steffon Armitage – 5.

Paul Hodgson – 5.

Dan Hipkiss – 5.