Cynyddu maint testun

Golwg360



Maddau dyledion Haiti

Chwefror 7, 2010 09:03

Mae Llywodraeth Gwledydd Prydain wedi croesawu penderfyniad saith gwlad gyfoethoca’r byd i ddileu dyledion Haiti oherwydd effeithiau’r daeargryn yno.

Fe ddaeth y cyhoeddiad ar ddiwedd cyfarfod o weinidogion ariannol grŵp y G7 yng Nghanada.

Mae’n golygu na fydd rhaid i Haiti dalu tua £570 miliwn – roedd gwledydd Prydain eisoes wedi penderfynu dileu dyledion.

Fe fydd pwysau’n awr ar i rai sefydliadau ariannol byd-eang wneud yr un peth i’r wlad sy’n cael ei hystyried yn wlad dlota’r Caribî a De America.

Ymgyrch

Roedd elusennau fel Cymorth Cristnogol wedi arwain ymgyrch i ddileu’r ddyled gan drefnu deiseb ar-lein.

Yn ôl rhai sylwebyddion, fydd y penderfyniad ddim yn gwneud gwahaniaeth mawr i’r gwledydd cyfoethog – isel yw taliadau llog ar hyn o bryd ac fe fyddai amheuaeth beth bynnag am allu Haiti i dalu’r dyledion yn ôl.

Mae’r Prif Weinidog, Gordon Brown, wedi croesawu penderfyniad y gwledydd eraill; “Mae’n rhaid ei bod ni’n iawn i sicrhau nad yw gwlad sydd wedi’i chladdu dan rwbel yn cael ei chladdu gan ddyled hefyd.”

Llun: Gwersyll i bobol ddigartre’ yn Haiti (Gwifren PA)