Mae’r Ysgrifennydd Amddiffyn, Bob Ainsworth, wedi rhybuddio bod nifer o filwyr yn debyg o gael eu lladd mewn cyrch mawr newydd yn erbyn y Taliban yn Afghanistan.
Mae’r gwrthryfelwyr yn nhalaith Helmand wedi cael dewis i naill ildio eu harfau neu wynebu ymosodiad gan filoedd o filwyr NATO.
Mae disgwyl i Ymgyrch Moshtarak ddechrau yn ystod y dyddiau nesaf, ac fe ddywedodd Bob Ainsworth bod anafiadau’n “risg gwirioneddol”.
Nod yr ymgyrch yw clirio’r gwrthryfelwyr o ardaloedd o amgylch tref Marja yn Helmand a rhoi’r cyfle i awdurdodau Afghanistan symud i mewn.
Dianc
Dyna pam fod rhybudd wedi’i roi ymlaen llaw – yn ogystal â rhoi’r cyfle i bobol gyffredin symud, fe all olygu bod y Taliban hefyd yn dianc yn hytrach nag ymladd.
“Wrth gwrs r’yn ni’n disgwyl anafiadau pan fyddwn ni’n rhan o’r fath yma o ymgyrch, ac fe fydd pobol yn ymwybodol o hynny”, meddai Bob Ainsworth.
“Dyw e ddim yn lle diogel a does dim gwahaniaeth faint o git yr ’yn ni’n ei ddarparu, allwn ni ddim sicrhau na fydd risg.”
Yn ôl rhai arbenigwyr, y peryg mwya’ yw y bydd y Taliban yn diflannu tros dro ac wedyn yn ymosod trwy gyfrwng bomiau min y ffordd a thactegau tebyg.
Calonnau a meddyliau
Dywedodd yr Ysgrifennydd Amddiffyn bod byddinoedd Prydain ac Afghanistan yn ceisio siarad gyda gwrthryfelwyr anfodlon yn y gobaith o’u denu i adael y gwrthryfelwyr.
“Nid mater o ladd pobol yw hyn. Fydd y rhyfel yma ddim yn cael ei ennill trwy ladd y Taliban. Ond yn hytrach, fe fydd yn cael ei ennill yng nghalonnau a meddyliau pobol Afghanistan”, ychwanegodd Bob Ainsworth.