Cynyddu maint testun

Golwg360



Tri, dau un… Endeavour!

Chwefror 8, 2010 13:10

Fe gododd y wennol ofod Endeavour i’r awyr o Cape Canaveral yn Fflorida heddiw – gan anelu am yr Osaf Ofod Rhyngwladol.

Roedd hi a’i chriw o chwech i fod i adael ddoe, ond fe fethodd â gwneud hynny oherwydd tywydd gwael.

Mae’r daith hon yn agor y bennod ola’ yn y rhaglen a fydd yn dod i ben yn yr hydref. Mae pedair taith arall wedi eu trefnu cyn hynny.

Gofod y dyfodol?

Does dim manylion pendant eto ynglŷn â rhaglen ofod nesaf NASA.

Roedd y sefydliad wedi gobeithio cael arian gan Lywodraeth yr Unol Daleithiau ar gyfer taith arall i’r Lleuad, ond mae’r Arlywydd Barack Obama wedi dweud na fydd hynny’n digwydd.