Cynyddu maint testun

Golwg360



Fferm wynt am darfu ar hen safle Glyndŵr

Chwefror 8, 2010 18:17

Gallai codi fferm wynt yng ngogledd Ceredigion darfu ar safle sy’n rhan bwysig o hanes Owain Glyndŵr, yn ôl ymgyrchwyr.

Mae cais y cwmni Scottish and Southern Energy i godi fferm wynt rhwng Talybont a Nant-y-moch wedi codi gwrychyn rhai sy’n dweud y byddai’n tarfu ar Fynydd Hyddgen – safle un o fuddugoliaethau Owain Glyndŵr yn erbyn y Saeson yn 1401.

Mae’r gwrthwynebwyr yn dweud y byddai’r fferm wynt yn tarfu ar safle o arwyddocâd mawr i hanes Cymru, ac yn difetha golygfeydd a chymeriad y dirwedd, yn ogystal ag amharu ar y diwydiant hamdden yn ardal Nant y Moch.

Cais am ganiatâd

Mae Scottish and Southern Energy wedi cael caniatâd gan Lywodraeth Cymru i ofyn am ganiatâd cynllunio i sefydlu’r fferm wynt.

Yn ôl y cwmni, maen nhw am godi’r melinau rhwng Talybont a Nant y Moch – ar dir preifat a thir sy’n cael ei reoli gan y Comisiwn Coedwigaeth.

Mae’r safle yn un o saith sydd wedi eu clustnodi gan Lywodraeth Cymru i fod yn addas ar gyfer datblygiad o’r fath.

Mae’r ymgyrchwyr yn honni y byddai’r fferm yn gorchuddio pum milltir sgwâr, ac yn cynnwys rhwng 60 ac 80 o felinau, a phob un o’r rheiny hyd at 475 troedfedd o daldra.

Cyfarfod cyhoeddus

Mae cyfarfod cyhoeddus i drafod y datblygiad wedi’i drefnu yn Neuadd Talybont am 7.30yh, nos Fercher, 17 Chwefror.