Plediodd doctor Michael Jackson yn ddieuog i gyhuddiad o ddynladdiad anfwriadol mewn gwrandawiad byr mewn llys yn Los Angeles ddoe.
Roedd rhai o deulu’r seren bop yn gwylio o’r seddi cyhoeddus wrth i Dr Conrad Murray, 56 oed, ymddangos o flaen y llys a phledio’n ddi-euog drwy ei dwrnai Ed Chernoff. Roedd gyda Michael Jackson pan fu farw ar Fehefin 25.
“Cafodd fy mab ei ladd,” meddai tad y canwr, Joe Jackson, ar ôl gadael y llys, ble’r oedd wedi gwylio’r achos gyda mam y canwr Katherine, a’i frodyr LaToya, Jermaine, Tito, Jackie a Randy.
“Ry’n ni eisiau cyfiawnder,” ychwanegodd. Ond dywedodd wrth asiantaeth newyddion CNN nad oedd yn credu mai Murray oedd yr unig berson oedd yn gyfrifol am farwolaeth ei fab.
“I fi, mae e’n cymryd y bai. Mae yna bobol eraill yn rhan o’r holl beth, yn fy marn i,” meddai. “Dywedodd Michael ei hun ei fod yn mynd i gael ei ladd. Dywedodd o hynny wrth ei blant, hyd yn oed.”
Roedd dwsin o bobol wedi gweiddi “llofrudd” wrth i Conrad Murray gerdded heibio i dyrfa o gannoedd o ohebwyr a chefnogwyr Michael Jackson ar ei ffordd i’r llys. Roedd ambell un arall yn dal arwydd yn dweud ‘Cyfiawnder i Michael’.
Cafodd Conrad Murray ei ryddhau ar fechnïaeth. Pe bai’r llys yn ei gael yn euog fe fyddai’n wynebu hyd at bedair blynedd yn y carchar.