Mae angen i ddarpar athrawon gael gwell cymwysterau cyn cael eu derbyn i’r swydd, yn ôl
adroddiad gan bwyllgor o Aelodau Seneddol o bob plaid.
Mae hi’n fater o “bryder mawr”, meddai’r Pwyllgor Dethol ar Ysgolion, bod myfyrwyr heb yr un Lefel A neu ddim ond ‘pas’ yn eu gradd yn gallu mynd yn athrawon.
Cyn gynted â phosib, maen nhw’n dweud bod eisiau cyfyngu cyrsiau hyfforddi athrawon i raddedigion gyda 2:2 ac wedyn 2:1.
Er mai trafod addysg yn Lloegr y mae’r pwyllgor, mae’r drefn gymwysterau yn debyg yng Nghymru.
Dileu cyrsiau
Mae’r pwyllgor hefyd wedi galw am gael gwared ar gyrsiau gradd sy’n hyfforddi pobol yn benodol i fod yn athrawon ysgol uwchradd – heb fod wedi gwneud gradd mewn pwnc arbenigol cyn hynny.
Roedd yna broblemau arbennig mewn rhai pynciau – roedd mwy na hanner y darpar athrawon ffiseg heb radd yn y pwnc ac ymhell tros hanner mewn mathemateg, cyfrifiadureg ac ieithoedd modern yn dal graddau is na 2:1.
“Rhaid i ddysgu gael ei weld yn yrfa ddeniadol ar gyfer unigolion disglair,” meddai Cadeirydd y Pwyllgor, Barry Sheerman. “Rhaid codi’r gofynion i fynd ar gyrsiau a rhaid cael gwell cefnogaeth i athrawon unwaith y maen nhw yn eu swyddi.”
Yr ymateb – cymysg
Roedd llefarydd y Ceidwadwyr, Michael Gove, yn croesawu’r adroddiad gan ddweud eu bo d nhw eisoes wedi galw am godi safonau. Fe fydden nhw hefyd yn rhoi rhyddid i brifathrawon dalu rhagor i athrawon da.
Yn ôl un o’r undebau athrawon, yr NASUWT, roedd syniadau’r pwyllgor yn “wenwynig” ac fe fydden nhw’n gyrru’r proffesiwn yn ôl ddeng mlynedd.
Amddiffyn cynnydd y blynyddoedd diwetha’ yr oedd y Gweinidog Ysgolion, Vernon Croaker. Roedd gan 90% o’r myfyrwyr ar gyrsiau hyfforddi athrawon y llynedd raddau 2:2 neu well.