Mae’r heddlu wedi cadarnhau mai corff merch 26 oed oedd wedi bod ar goll ers y llynedd a oedd wedi ei dynnu o’r mf4r yr wythnos ddiwetha’.
Gwelwyd Gemma Garn, o Gwmbran, am y tro olaf ar Ragfyr 19, allan gyda’i ffrindiau yn ardal Pontnewydd.
Daeth yr heddlu o hyd i’w char Kia Rio yn ddiweddarach y bore hwnnw ar ail bont Hafren.
Cafwyd hyd i’w chorff yn y môr ger Penarth, ym Mro Morgannwg, ddydd Mercher diwethaf.
Roedd yr heddlu wedi apelio ar y cyhoedd am wybodaeth amdani yn y dyddiau a’r wythnosau ers iddi ddiflannu.
“Yn dilyn darganfyddiad corff merch yn y dŵr ger Penarth ar 3 Chwfror, gall Heddlu Gwent gyhoeddi mai corff Gemma Garn yw hi,” meddai llefarydd ar ran yr heddlu.
“Mae Heddlu Gwent yn parhau i gefnogi teulu Gemma drwy’r amser anodd yma. Mae nhw wedi gofyn am lonydd i alaru.”