Cynyddu maint testun

Golwg360



Disgwyl pleidlais o blaid refferendwm

Chwefror 9, 2010 07:14

Mae disgwyl i’r Cynulliad bleidleisio heddiw i ddechrau’r broses o drefnu refferendwm ar gyfer datganoli pellach.

Mae’n ymddangos nad oes unrhyw beryg y bydd y bleidlais yn methu, gyda’r Ceidwadwyr a’r Democratiaid Rhyddfrydol yn cefnogi cynnig y Llywodraeth Glymblaid.

Mae angen cyfanswm o 40 o bleidleisiau o blith y 60 posib ac mae’n ymddangos y bydd y bleidlais yn agos at fod yn unfrydol.

Nod y refferendwm fyddai ei gwneud hi’n haws i’r Cynulliad basio deddfau – fe fyddai’n cael yr hawl i wneud cyfreithiau yn y meysydd sydd wedi’u datganoli, heb orfod gofyn am ganiatâd gan y Senedd yn Llundain bob tro.

Dyddiad yn allweddol

Roedd y gwrthbleidiau eisiau sicrwydd na fyddai’r bleidlais yn digwydd ar yr un diwrnod ag etholiadau nesa’r Cynulliad – fe fydd y Prif Weinidog, Carwyn Jones, yn gwneud yn glir nad yw hynny’n debygol.

Heb yr awgrym hwnnw, roedd y Ceidwadwyr a’r Democratiaid Rhyddfrydol yn bygwth atal eu pleidlais, ond mae’n ymddangos eu bod wedi cael eu bodloni gan drafodaethau’r wythnos ddiwetha’.

Fe fydd y bleidlais yn golygu bod cais yn mynd i Ysgrifennydd Cymru am gael cynnal refferendwm. Mae ganddo ef 120 o ddiwrnodau i ymateb, gan gynnwys saith wythnos o drafod gyda’r Comisiwn Etholiadaol ynglŷn ag union eiriau’r cwestiwn.

Yr Archesgob yn croesawu

Mae’r cydweithio rhwng y pleidiau’n addawol, meddai Archesgob Cymru, Barry Morgan, cadeirydd y mudiad sy’n ymgyrchu tros ddatganoli pellach, Cymru Ymlaen.

“Mae hyn yn golygu bod Aelodau Cynulliad yn rhoi anghenion y bobol o flaen buddiannau eu pleidiau,” meddai.

“Mae’n plannu’r hadau ar gyfer y cydweithio sydd ei angen i ennill pleidlais ‘Ie’ gref yn y refferendwm arfaethedig.”

Etholiad Cyffredinol – problem bosib

Amser yw’r unig farc cwestiwn o hyd. Fe allai Etholiad Cyffredinol cynnar achosi problemau, pe bai’n dod cyn i Ysgrifennydd Cymru roi ei ganiatâd.

Mae’r Ysgrifennydd presennol, Peter Hain, wedi gwneud yn glir na fydd yn rhwystro’r cais; er bod y Ceidwadwyr wedi awgrymu hynny hefyd, mae ychydig mwy o ansicrwydd am eu hagwedd nhw.

Amser yw’r bygythiad penna’ gyda phosibilrwydd o senedd grog a’r angen am etholiad pellach. Does dim modd rhuthro proses y refferendwm fwy na hyn a hyn – rhaid i’r Comisiwn Etholiadol ymgynghori gyda’r cyhoedd ynglŷn â geiriau’r cwestiwn.