Cynyddu maint testun

Golwg360



Gwneud elw gwleidyddol o’r dirwasgiad

Chwefror 10, 2010 13:39

Ifan Morgan Jones sy’n edrych ar un o bynciau llosg yr etholiad…

Oes darn arian wrth law? Os felly, ffliciwch o yn yr awyr a phenderfynu be sydd orau i’r economi. Y pen – toriadau llym. Y gynffon – buddsoddi rhagor o arian cyhoeddus.

Gyda’r wlad yn cropian allan o ddirwasgiad mae’n amlwg mai adferiad, neu ddiffyg adferiad, economaidd fydd un o bynciau llosg yr Etholiad Cyffredinol.

Ond y broblem gyda’r ddadl economaidd rhwng Llafur a’r Torïaid yw mai dyfalu yw’r cyfan, yn y bôn – nid yn unig i’r pledleiswyr ond i’r gwleidyddion eu hunain.

Dadl dros amseru yw hi. Mae’r Torïaid eisiau torri’n fuan, a mae Llafur eisiau gweld yr economi ar ei draed cyn iddyn nhw gipio’r ffrâm Zimmer o’i afael.

Mae Llafur yn gobeithio gwneud elw gwleidyddol o’r ffaith nad ydyn nhw am wneud toriadau buan. A mae’r Torïaid yn credu bod yr etholwyr yn ddigon realistig i gydnabod bod toriadau llym yn anochel.

Ond mewn gwirionedd dyw hyd yn oed yr economegwyr ddim yn gallu penderfynu pa lwybr yw’r un cywir – toriadau nawr a pheryglu adferiad digon bregus, ynteu gadael i’r diffyg ariannol chwyddo fel balŵn a dychryn y farchnad. Mae yna ddamcaniaethau a thystiolaeth hanesyddol i gefnogi’r ddau ddull.

Ac er mwyn drysu pethau ymhellach, mae’r Canghellor wedi bod yn dweud bod toriadau llym yn anochel, ond mae arweinydd y Ceidwadwyr, David Cameron, wedi newid ei diwn, gan ddweud na fydd y toriadau cynnar yn rhai “eang”.

Beth sy’n wahanol rhwng y pleidiau felly, heblaw am y rhethreg? Yr unig gasgliad yw nad yw’r pleidiau eu hunain yn gwybod beth fyddai orau i’r economi chwaith. Maen nhw wedi dewis eu gwahanol safbwyntiau am mai’r rheiny yw safbwyntiau arferol eu pleidiau.

Gyda negeseuon gwahanol yn dod o bob cyfeiriad, does gynnon ni’r pleidleiswyr ddim llawer o ddewis ond fflicio’r darn arian yna. Os oes gynnoch chi arian ar ôl.