Cynyddu maint testun

Golwg360



Cynllun Maes Awyr i beidio â difetha Dydd San Ffolant

Chwefror 12, 2010 16:06

Mae gweithwyr diogelwch mewn maes awyr wedi dod o hyd i ffordd newydd i beidio â distrywio dathliadau San Ffolant eu cwsmeriaid.

Dywedodd Maes Awyr Manceinion bod teithiau rhamantaidd wedi eu sbwylio yn y gorffennol wrth i’r staff ddiogelwch ddod o hyd i fodrwyau dyweddïo a’u datgelu i’r darpar ddyweddi.

Dros y penwythnos yma maen nhw’n cynnig trefniadau newydd ar gyfer unrhyw deithiwr sydd â chyfrinach fawr. Fe all y rheiny fynd at swyddogion diogelwch a sibrwd “be my Valentine” ac fe fyddan nhw’n cael eu chwilio y tu ôl i sgrin breifat yn lle.

“Mae ein staff diogelwch yn hapus i gwsmeriaid ddefnyddio’r frawddeg, yn enwedig os ydy o’n osgoi difetha dyweddïad,” meddai llefarydd. “R’yn ni eisiau gwneud y daith yn haws i’r cwsmeriaid heb gyfaddawdu ar ddiogelwch.”

Felly, os bydd eich cariad chi’n cael ei dynnu o’r neilltu, mae naill ai’n cario modrwy neu mewn trwbwl mawr …