Mae Bwrdd yr Iaith Gymraeg wedi cadarnhau eu bod nhw’n ymchwilio i weld a yw hysbyseb ar gyfer swydd Prifathro yn torri cynllun iaith Prifysgol Bangor.
Datgelodd Golwg 360 ddoe nad oedd y Brifysgol yn gofyn am allu i siarad Cymraeg wrth hysbysebu swydd yr Is-Ganghellor.
Dywedodd Bwrdd yr Iaith wrth Golwg 360 eu bod nhw am “ofyn am fwy o wybodaeth gan y Brifysgol i weld a yw’r sefydliad wedi methu â chyflawni ei gynllun iaith wrth hysbysebu am Is-ganghellor”.
Gwahanol i’r tro diwetha’
“Mae Bwrdd yr Iaith wedi dod i ddeall nad yw’r hysbyseb ar gyfer swydd nesaf Is-Ganghellor Prifysgol Bangor yn nodi bod y gallu yn y Gymraeg yn hanfodol neu yn ddymunol,” meddai llefarydd.
“Mae hyn yn golygu bod newid yn y gofyniad ers penodi’r Is-Ganghellor presennol. Bwriad y Bwrdd yw gofyn am ragor o wybodaeth gan y Brifysgol i weld a yw’r sefydliad wedi methu â chyflawni ei gynllun iaith wrth hysbysebu am Is-Ganghellor.”
‘Gobeithio, ond dim angen’
Cadarnhaodd Prifysgol Bangor ddoe na fydd angen i’r Is-Ganghellor newydd allu siarad Cymraeg, er eu bod nhw’n gobeithio y byddai.
“Bydd y panel [penodi] yn ceisio sicrhau y bydd nifer sylweddol o siaradwyr Cymraeg yn ymgeisio am y swydd, ond barn y Panel yw nad oes angen rhoi amod penodol ynglŷn â’r gofynion iaith,” meddai’r Brifysgol.
Petai “person di-gymraeg” yn cael ei benodi i’r swydd y byddai’r “Brifysgol yn rhoi anogaeth gref a chefnogaeth i’r unigolyn ddysgu Cymraeg,” meddai’r Brifysgol.