Cafwyd “gwledd o gystadlu ymhob oedran” yn Eisteddfod Tabernacl Ffairfach, 2010, nos Wener, 5 Chwefror meddai Anne Roberts, Ysgrifennydd yr Eisteddfod.
Yr unig siom meddai yw nad yw dysgwyr “yn cymryd rhan a dangos eu doniau”.
Beirniaid yr Eisteddfod oedd Mr Eric Jones o’r Hendy, Miss Delyth Mai Nicholas o’r un ardal a Mrs Indeg Griffiths, Ffairfach.
Y cyfeilydd swyddogol yn ôl yr arfer oedd Mr Jonathan Morgan o’r Tymbl.
Y Llywydd eleni oedd Mrs Meinir Thomas, Ffairfach a’r arweinwyr oedd Bob Roberts ac Ieuan Jones.
Gadael ar ôl 20 mlynedd
Mae Anne Roberts, Ysgrifenyddes yr Eisteddfod yn gadael ar ôl ugain mlynedd o ddyletswydd.
“Roedd o’n bleser ac yn fraint cael y cyfle i gadw’r diwylliant eisteddfodol i fynd cyhyd yn yr ardal,” meddai.
“Meddyliwch yn ddwys a chysylltwch os ydych yn teimlo y gallech ddod i’r adwy fel ysgrifennydd.
Bydda’i a Mr Geraint Hughes, Trefnydd Cymdeithas Eisteddfodau Cymru yn hapus iawn i roi arweiniad.”
Dyma’r bedwaredd eisteddfod ar bymtheg i gael ei chynnal.
Cerddoriaeth
|
|
1af |
2ail |
3ydd |
|
Unawd derbyn a Bl.1 |
Betsan Campbell |
Haf Davies |
Megan a Lowri |
|
Unawd Bl. 2 ac Iau |
Sophie Jones |