Cynyddu maint testun

Golwg360



Cerddorion profiadol yn mynd am y £10,000

Chwefror 15, 2010 14:47

Fe fydd wyth cyfansoddwr/ band yn cystadlu’n fyw ar raglen Cân i Gymru ar S4C nos Wener, Chwefror 26. Ac mae’r rhan fwya’ o’r enwau ar y rhestr fer yn cynnwys cerddorion proffesiynol sy’n enwau cyhoeddus ar y cyfryngau.

Mae Gai Toms, Alun Tan Lan, Jaqueline Williams, Aron Elias, Lowri Evans, Tudur Morgan ac Osian Howells ar y rhestr o enwau fydd yn cystadlu am wobr o £10,000 yn fyw ar S4C ymhen pythefnos.

Barn y beirniaid

Owen Powell, cyn-gitarydd y band Catatonia, yw Cadeirydd y Rheithgor. Fe fydd Aloma Jones, o’r ddeuawd boblogaidd Toni ac Aloma, hefyd ar y panel, ynghyd â’r cerddor a’r cyfarwyddwr teledu, Endaf Emlyn; y gantores a chyflwynydd cyfres Nodyn, Elin Fflur; ac enillydd Cân i Gymru 2009, Elfed Morgan Morris.

Fe fydd cyfansoddwr y gân fuddugol yn derbyn £10,000; yr ail yn cael £2,000, a’r trydydd wobr o £1,500.

Fe fydd hanner y pleidleisiau’n dod o’r panel beirniaid yn Venue Cymru, Llandudno, ar y noson, a’r hanner arall gan wylwyr.

Yr wyth olaf

- Gwên ar fy Wyneb, wedi ei chyfansoddi gan Megan Rhys Williams o Hermon ger Crymych ar gyfer ei chwrs cerddoriaeth Lefel A yn Ysgol Gyfun y Preseli. Mae bellach yn fyfyrwraig ym Mhrifysgol Caerdydd. Perfformir y gân ar y noson gan Beth Williams.

- Bws i’r Lleuad gan Alun ‘Tan Lan’ Evans o Lanrwst. Mae Alun yn gerddor unigol adnabyddus, ac yn gyn-aelod o fand Euros Childs. Mae bellach hefyd yn chwarae’r gitâr i’r grŵp offerynnol newydd, Y Niwl. Tomos Wyn fydd yn perfformio’r gân.

- Deffra gan Gai Toms o Flaenau Ffestiniog, a fydd yn cael ei pherfformio gan Estynedig. Yn ddiweddar, fe gyhoeddodd Gai albwm eco-gysyniadol, Rhwng y Llygru a’r Glasu, ac mae Deffra yn crisialu’r syniad y tu ôl i’r albwm hwnnw.

- Pob Siawns, cân wedi ei chyfansoddi ar y cyd gan Lowri Evans o Dreftraeth a’r gitarydd a pheiriannydd stiwdio, Lee Mason. Lowri fydd yn perfformio’r gân ar y noson. Daeth y ddau yn ail yn y gystadleuaeth yn 2008 gyda’r gân, Ti a Fi.

- Gorwel gan Jaqueline Williams ac Aron Elias Jones, a fu’n aelod o’r band hip hop Pep Le Pew ond sydd bellach yn chwarae gyda’r band Y Rei.

- Aros yn yr un Lle, a gyfansoddwyd gan aelod o’r band Yr Ods, sef Osian Howells. Fe fu Osian yn chwarae’r gitâr a’r allweddellau gyda’r band Yucatan. Yr Ods fydd yn perfformio’r gân ar y noson.

- Ti a Ddaeth o Dramor, yw’r gân a gyfansoddwyd ar y cyd gan Matthew Wall, o Bwllheli, a Deio Jones o Garndolbenmaen. Mae Matthew bellach yn athro yn Ysgol Gyfun y Barri ac yn aelod o’r band, Hafaliadau.

- (Yr Owain) Glyndŵr, wedi ei chyfansoddi gan Simon Gardner, Andrew Moore a Tudur Morgan. Mae Tudur yn gynhyrchydd recordiau proffesiynol, Simon yn artist unigol, ac Andrew yn drawsgrifwr cerddoriaeth. Perfformir y gân ar y noson gan Martin Beattie.