Cynyddu maint testun

Golwg360



Ardaloedd “homoffobig” yng ngogledd Cymru, meddai cyflwynydd

Chwefror 15, 2010 16:15

Mae yna ardaloedd homoffobig iawn yng ngogledd Cymru, meddai cyflwynydd hoyw o Ben Llŷn. Ond, wedi dweud hynny, mae Meical Owen yn dweud mai Bangor yw un o’r llefydd gorau am noson allan hoyw.

A mis Chwefror yn fis dathlu hanes hoyw, mae Meical Owen am weld y sîn hoyw yn y Gogledd yn cryfhau a thyfu.

Er bod hynny wedi digwydd i raddau dros y blynyddoedd diweddaraf, mae’n dweud mai mynd allan i stryd hoyw Manceinion, Canal Street, y bydd Meical Owen a’i ffrindiau tuag unwaith bob dau fis.

“Unig”

“Mae Pen Llŷn yn lle unig iawn i fyw os ti’n hoyw,” meddai Meical Owen, cyn ychwanegu nad ydi gogledd Cymru “yn symud gyda’r amseroedd”.

Er mai Bangor yw’r ardal gorau i bobl hoyw yng ngogledd Cymru, mae Meical Owen wedi cael profiadau annifyr yno. “Problemau gyda chavs Bangor yn dweud pethau’n benna’,” meddai.

“Mi oedd y sylwadau homoffobaidd yn gwneud i fi deimlo’n annifyr ac yn ofnus. Mi fydda’ i’n gweld Pen Llŷn yn lle homoffobig hefyd.

“Dw i wedi cael dipyn o drafferth efo pobol yn dweud pethau. Mae’n mynd yn waeth wrth i rywun fynd ymhellach i mewn i’r sticks. Faswn i’n licio gwneud mwy i godi ymwybyddiaeth o homoffobia a helpu pobol ifanc.”

Hoyw yn y byd teledu

“Fi ydi’r un o’r chydig, os nad yr unig, gyflwynydd hoyw sydd allan ar S4C,” meddai Meical Owen. “Dw i’n falch fy mod i’n hoyw ac ar S4C, mae’n neis cael bod.

“Dw i yn teimlo dyla’ bod yna fwy o gyfleoedd i bobol hoyw gyfrannu ar S4C. Dw i wedi gwneud marc ac mae lle i fwy o bobl hoyw.”