Dyw llawer o bobl ifanc ddim yn credu fod addysg wedi’u paratoi ar gyfer y byd gwaith, yn ôl adroddiad newydd.
Mae astudiaeth gan Fforwm Edge Learner yn dweud bod pobol ifanc yn dechrau “amau” gwerth eu haddysg wrth iddyn nhw fynd yn hŷn – mae llawer hefyd yn pryderu am effaith y dirwasgiad ar eu rhagolygon tymor hir.
Roedd Comisiwn Ieuenctid y Fforwm wedi cyfweld a gyrru holiaduron manwl at fwy na 1,200 o bobol ifanc a chynnal arolwg o bron i 6,000 arall.
Yn ôl yr ymchwil:
• Roedd 85% o’r bobol ifanc o dan 17 blwydd oed yn credu fod addysg yn helpu eu paratoi ar gyfer y byd gwaith.
• Dim ond 53% o’r bobl ifanc dros 17 blwydd oed oedd yn credu hyn.
“Mae’n amlwg, wrth i bobol ifanc fynd yn hŷn, mae llai ohonyn nhw’n credu fod addysg wedi’u helpu nhw,” meddai’r adroddiad. “Gydag oed, maen nhw’n dechrau amau a ydyn nhw’n ffit i’w cyflogi.”
Dirwasgiad
Roedd bron i ddau draean (64%) o bobol ifanc yn credu y bydd y dirwasgiad yn cael effaith tymor hir ar eu gallu i gael gwaith, meddai’r ymchwil.
Fe ddangosodd ffigurau gwaith mis Tachwedd bod mwy na miliwn o bobol ifanc rhwng 16 a 24 oed heb fod mewn gwaith, addysg na hyfforddiant.
Roedd bron i draean o 1,200 o bobl ifanc a gafodd eu cyfweld yn credu mai un o’r rhwystrau mwyaf yn nhermau cyflogaeth oedd diffyg sgiliau.
Mae’r adroddiad yn gwneud nifer o argymhellion, gan gynnwys cynnig gwell profiad gwaith a newid canfyddiad pobol ifanc mai mynd i Brifysgol yw’r unig ffordd o lwyddo.