Cynyddu maint testun

Golwg360



Dyn yn dal ei wynt am bron 20 munud

Chwefror 16, 2010 13:04

Mae dyn o’r Swistir wedi torri record byd drwy ddal ei wynt o dan y dŵr am 19 munud a 21 eiliad.

Cyflawnodd Peter Colat y gamp mewn tanc dŵr yn St Gallen yn y Swistir. Maeddodd y record flaenorol o 19 eiliad, a gafodd ei sefydlu ym mis Mai’r llynedd gan yr Eidalwr Nicola Putignano.

Dywedodd Peter Colat, sy’n 38 oed ac yn ddeifiwr profiadol, nad oedd yr 12 munud cyntaf yn broblem.

Daeth yr awydd i anadlu tuag at y diwedd, ond roedd “hyd yn oed yn gryfach” nag o’r blaen.

Yn unol â rheolau Record Byd Guinness, roedd Peter Colat wedi cael anadlu ocsigen pur am 10 munud cyn dechrau ar ei ymdrech.