Cynyddu maint testun

Golwg360



Rhybudd i berchnogion ar ôl achub ci

Chwefror 16, 2010 16:09

Mae swyddogion tân wedi rhybuddio perchnogion cŵn i fod yn ofalus ger clogwyni ar ôl iddyn nhw orfod achub ci ac atal trychineb llawer gwaeth.

Fe gafodd Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru alwad i glogwyni Rhosili ym Mhenrhyn Gŵyr ar ôl clywed bod perchnogion ci yn bygwth mynd i’w achub 150 o droedfeddi i lawr dibyn serth.

“Pan dderbynion ni´r alwad, fe gawson ni glywed bod perchenogion y ci´n mynd i geisio’i achub, a byddai hynny wedi bod yn beryglus iawn,” meddai Craig Thomas ar ran y Gwasanaeth. “Roedd Gwylwyr y Glannau eisoes yno ac angen ein cymorth ni.”

Fe gymerodd hi bedair awr i’r diffoddwyr achub y ci ddydd Sul gan ddefnyddio rhaff a sling i’w godi.

Mae’n ymddangos ei fod wedi rhedeg ar ôl dafad a syrthio 150 troedfedd i lawr. Ac fe gafodd y ddafad ei hachub hefyd.

Mae’r gwasanaeth wedi galw ar bobol i “gymryd pob gofal posibl” ar glogwyni’r ardal.