Cynyddu maint testun

Golwg360



Cynghorau’n gwario miliynau ar wahardd disgyblion

Chwefror 17, 2010 17:11

Mae Awdurdodau Addysg Lleol yng Nghymru’n gwario miloedd ar ddarpariaeth i ddisgyblion sydd wedi’u gwahardd o ysgolion, meddai dau Aelod Cynulliad.

Yn Wrecsam yn unig, roedd y gost yn £1.83 miliwn mewn blwyddyn ac mae’r ffigurau’n “peri pryder” meddai’r ddau AC Ceidwadol, Mark Isherwood a Darren Millar.

Roedd y ddau’n dweud eu bod wedi cael “sioc” ar ôl cael ateb yn egluro faint sy’n cael ei wario gan awdurdodau lleol y Gogledd ar Unedau Cyfeirio Disgyblion.

Dyma’r unedau sy’n gofalu am ddisgyblion sydd heb fod yn yr ysgol, boed hynny am resymau meddygol neu am eu bod wedi’u gwahardd. Mae gan bob Awdurdod Addysg Lleol gyfrifoldeb i wneud trefniadau ar eu cyfer.

Y ffigurau

Mae ffigurau dros Wrecsam yn ystod 2007-08 yn dangos fod yr awdurdod wedi gwario £1.829m – mwy na’r pum awdurdod arall a chynnydd o £278,000 ar ffigurau 2003-04.

Sir y Fflint oedd yn ail o ran gwariant ar ôl gwario £1.676m. Yn o yr oedd y cynnydd mwya’ yn ystod y cyfnod – £706,000.

Fe wnaeth Conwy wario £1.051m, Sir Ddinbych £905,000, Gwynedd £329,000 a Sir Fôn £163,000.

‘Angen newid cyfeiriad’

Roedd y ffigurau’n dangos bod angen newid cyfeiriad a dechrau delio gydag achos yr ymddygiad anystywallt, meddai Mark Isherwood, AC rhanbarthol tros Ogledd Cymru.

Roedd yn argymell agor rhagor o ganolfannau fel un yn Ysgol Emrys ap Iwan Abergele sydd, meddai, wedi cael llwyddiant mawr yn atal yr angen am wahardd.

“Fe ddylen ni fod yn cefnogi ymyrraeth gynnar ac annog arferion da trwy roi’r arian i ysgolion yn hytrach nag i ddisgyblion sydd wedi’u gwahardd oherwydd methiant i ymyrryd.”

Llun: Mark Isherwood – angen agwedd newydd