Mae’r rap-sgaliwn MC Saizmundo yn ôl a’i ganeuon yr un mor ddychanol a phryfoclyd ag erioed.
Daeth i sylw gynta’ gyda’r gân ddychanol ‘Terri a Huw’ a oedd yn adrodd hanes super-ffan Pobol y Cwm sy’n addoli Huw Ceredig – sy’n adlais glyfar o ‘Stan’ gan Eminem.
Teip o Gymro yw ei gocyn hitio yn ei gân newydd ‘Dim grant ar ôl’, sy’n adrodd hanes Huw arall sydd, y tro hwn, yn byw’n fras ar bwrs ein gwlad.
“Yr ergyd ydi Huw Edmwnd, a’i bwynt o mewn bywyd ydi chwilio am grantiau,” meddai MC Saizmundo wrth chwerthin am ben ei greadigaeth grotesg ddiweddara’.
‘Byth yn codi’
Mae’n rapio i daflu golau ar yr hyn mae’n ei ystyried yn un o feiau cudd y Gymry Gyfoes.
“Mae gan Huw Edmwnd foi yn y Cynulliad sy’n cael y grantiau iddo,” eglura.
“Mae ganddo bres ac mae o’n hapus ei fyd… ond mae cymylau’n cau, economi’n chwalu.
“Mae o’n ffonio’r contact, ond dydi’r contact ddim yn ateb y ffôn. Pendraw’r stori ydi fod Huw Edmwnd yn mynd i’w wely a byth yn codi.”
Saunders Lewis, Meical Povey… MC Saizmundo?
Onid rapar ydoedd Shakespeare? Dyna’r math o gwestiynau sy’n chwyrlïo rhwng clustiau MC Saizmundo wrth iddo ystyried ceisio am swydd wag Cyfarwyddwr Artistig Theatr Genedlaethol Cymru.
“Ella wna’ i drio amdani,” meddai’n synfyfyriol.
“Ond fydd raid iddyn nhw newid y teitl i ‘Y Cyfarwyddwr Unbeniaethol.’ A fydd neb arall yn cael barn, fi sy’ efo’r gair olaf!”
Cewch ddarllen weddill yr erthyg yn y Babell Roc yn Golwg, Chwefror 18