Cynyddu maint testun

Golwg360



Hanner y primatiaid mewn peryg

Chwefror 18, 2010 14:26

Mae bron i hanner pob rhywogaeth o brimat ar y ddaear mewn peryg o ddiflannu, rhybuddiodd ymchwil newydd heddiw.

Cafodd yr ymchwil ei ryddhau gan Sw Gerddi Bryste heddiw ac mae’n cynnwys rhestr o’r 25 primat sydd dan y mwyaf o fygythiad.

Mae’r ymchwil gan 85 arbenigwr ledled y byd yn dangos bod perthnasau agosâ’r ddynol ryw – epaod, mwncïod, lemyriaid ac eraill – ar fin cael eu colli am byth.

Dinistriad coedwigoedd trofannol, y fasnach anifeiliaid anghyfreithlon a hela anifeiliaid am eu cig oedd yn bennaf gyfrifol am y cwymp mewn niferoedd.

Mae’r 25 primat mewn peryg yn cynnwys pump o Fadagascar, chwech o Affrica, 11 o Asia a thri o America.

Gobaith Dr Christoph Schwitzer, un o olygwyr y gwaith, yw y bydd yn tynnu sylw at gyflwr y primatiaid.

“Mae’r adroddiad yn ddychrynllyd a’n tanlinellu i ba raddau mae creaduriaid y byd yn wynebu cael eu colli am byth,” meddai.

“R’yn ni’n gobeithio y bydd o’n effeithiol wrth dynnu sylw at gyflwr pob un o’r rhywogaethau sydd wedi’u cynnwys.

“Mae angen gweithredu nawr os nad ydyn ni am golli’r anifeiliaid rhyfeddol yma am byth.”