Cynyddu maint testun

Golwg360



Datblygu dyfais newydd er mwyn diheintio offer meddygol

Chwefror 18, 2010 16:49

Mae ymchwilwyr gwyddonol ym Mhrifysgol Glyndŵr wedi datblygu microdon syml sy’n diheintio offer meddygol.

Dyfeisiodd y gwyddonwyr y ffordd ratach o ladd bacteria ar offer meddygol, offer deintyddion a milfeddygon, a hynny am ffracsiwn o gost yr offer sydd ar gael ar hyn o bryd.

Yn y gorffennol bu’n rhaid i feddygon a milfeddygon gael gwared o bacteria gan ddefnyddio gwres neu alcohol cyn defnyddio eu hoffer ar gleifion.

Ond mae cemegau cryfion wedi’u defnyddio yn y blynyddoedd diwethaf wrth i facteria ddatblygu’n fwy gwydn.

Mae’r offer newydd gan Brifysgol Glyndŵr yn creu maes trydanol sy’n lladd y bacteria.

Dywedodd Dr Andy Wright o’r brifysgol fod y dechnoleg yr un mor effeithiol â’r dechnoleg fwy costus a thrymach oedd eisoes yn bodoli, os nad yn well.

Mae’n fach o ran maint ac yn gymharol ysgafn, meddai, ac yn gallu diheintio offer mewn pum munud neu lai.

“Dim ond £2,000 o bunnoedd mae’r popty yn ei gostio,” meddai. “Mae’r offer diheintio mwyaf dibynadwy ar y farchnad ar hyn o bryd yn costio £70,000.”