Gordon Brown yw’r diweddara’ i roi ei resymau tros fynd i ryfel. Yn ôl Dylan Iorwerth, mae’n rhyfedd … a sinistr.
Mae rhesymau’r Llywodraeth tros fynd i ryfel yn erbyn Irac yn mynd yn rhyfeddach bob munud. Cyn hir, mi fydd rhaid i Gordon Brown gyhoeddi rhyfel yn ei erbyn ei hun.
Yr esgus diweddara’, yn ôl y Prif Weinidog, yw bod Saddam Hussein yn gwrthod ufuddhau i orchmynion y Cenhedloedd Unedig i adael i archwilwyr weld ei holl arfau dinistriol.
Cyn troi at sylwedd yr honiad, beth am yr egwyddor? A yden ni bellach am ymosod ar bawb sy’n gwrthod ufuddhau i’r corff rhyngwladol?
A yden ni am ymosod ar Israel am y ffordd y mae’n trin y Palesteiniaid ac yn dal i godi treflannau ar eu tir nhw? A yden ni am ymosod ar Brydain Fawr am beidio â thrafod dyfodol Ynysoedd y Malfinas gyda’r Ariannin?
Ac os gorchymyn gan y Cenhedloedd Unedig oedd hwn, onid y Cenhedloedd Unedig eu hunain a ddylai fod wedi penderfynu ar ryfel neu beidio?
Ond rŵan beth am y sylwedd? Yn ôl Brown doedd Saddam ddim wedi ufuddhau i orchymyn i adael i’r archwilwyr weld yr holl arfau dinistriol. Hmmm.
Ar y pryd, roedd pennaeth yr archwilwyr hynny, Hans Blix, yn gymharol hapus efo’r ffordd yr oedd pethau’n mynd ac yn dweud mai ychydig fisoedd oedd eu hangen i setlo popeth.
Er nad oedd Saddam yn ufuddhau “ar unwaith”, roedd pethau’n dod gan bwyll bach ac, wrth gwrs, fel y gwyddon ni, doedd yna ddim arfau. Felly’r broblem oedd fod Saddam yn gwrthod gadael i archwilwyr chwilio am bethau nad oedden nhw’n bod.
Ar ôl clywed yr holl weinidogion pwysig ar y pryd – y Prif Weinidog, yr Ysgrifennydd Tramor, y Twrnai Cyffredinol a rŵan y Canghellor – does dim ond dau gasgliad posib … maen nhw naill ai’n palu celwyddau neu doedd neb yn gwybod beth gythgam oedd yn digwydd.
Bron na fyddai rhywun yn dweud bod y cynta’n well na’r ail ond mae yna oblygiadau sinistr eraill i resymeg Gordon Brown.
Fe allai’r un esgus yn union gael ei ddefnyddio yn erbyn Iran.