Cynyddu maint testun

Golwg360



Amgueddfa Wyddoniaeth Genedlaethol i Gymru?

Chwefror 19, 2010 17:18

Bydd cynhadledd yn cael ei chynnal fis nesaf i benderfynu a oes galw am sefydlu amgueddfa genedlaethol yn benodol i ddathlu hanes gwyddonol Cymru.

Arbenigwyr o Amgueddfa Genedlaethol Cymru sydd wedi trefnu’r gynhadledd undydd, gan eu bod nhw’n poeni fod peryg y gallai rhai gwyddonwyr Cymreig gael eu anghofio.

Yn ôl datganiad gan Amgueddfa Cymru, bydd siaradwyr o bob cwr o wledydd Prydain yn y gynhadledd, “yn annog” cynrychiolwyr i ystyried beth fydd angen ei wneud i ddiogelu a dathlu etifeddiaeth wyddonol, dechnolegol, peirianyddol a mathemategol Cymru.


‘Deall treftadaeth’

“Mae gwyddoniaeth yn chwarae rhan bwysig wrth ein helpu ni i ddeall treftadaeth ein gwlad,” dywedodd John Williams-Davies, Cyfarwyddwr Casgliadau ac Ymchwil, Amgueddfa Cymru.

“Wrth gynnal y gynhadledd mae’r Amgueddfa’n rhoi cyfle i bobl sydd â diddordeb yn y pwnc a hanes ein gwlad i drafod sut y gellir cyflwyno cyfraniad Cymru i ddatblygiad gwyddoniaeth.”

Dywedodd fod angen cofnodi cyraeddiadau gwyddonwyr yng Nghymru, gan gynnwys:

• Robert Recorde o Ddinbych-y-pysgod, dyfeisiwr y symbol hafal a “thad mathemateg Brydeinig”

• Datblygiad canolfan ymchwil y byd ar gyfer Iechyd Nano ym Mhrifysgol Abertawe

• Adeiladu’r bont grog haearn gyntaf erioed sy’n cario’r A5 ar draws Afon Menai

Y cwestiwn fydd yn cael ei drafod yn y gynhadledd meddai John Williams-Davies, yw sut dylid eu cofio.

Bydd y gynhadledd – Treftadaeth Wyddonol Cymru: Y Ffordd Ymlaen – yn cael ei gynnal yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, ddydd Iau, 18 Mawrth 2010, ac mae’n agored i bawb.