Mae athletwraig wedi ennill y fedal aur unigol cyntaf yn Gemau Olympaidd y Gaeaf i Brydain ers 30 mlynedd.
Llithrodd Amy Williams, 27 oed, o Bath i fuddugoliaeth yn y ‘skeleton bob’ hanner eiliad yn gynt na gweddill yr athletwyr yn Whistler, Canada.
Hi yw enillydd cyntaf medal aur Prydain yn y gemau ers y sglefriwr ia Robin Cousins, wnaeth ennill yn Lake Placid yn 1980.
“Does gen i ddim geiriau,” meddai. “Mae’r cyfan yn wallgo’. Alla’i ddim cofio hanner beth ddigwyddodd. Ddes i allan o’r gwaelod ac edrych ar fy hyfforddwr.”
Ychwanegodd y byddai’n “rhoi cwtsh i mam” a’i bod hi’n “diolch i bawb gartref”.
“Rwy’n gwybod bod pawb wedi bod yn fy ngwylio i, dwi’n gwybod eu bod nhw wedi dod at ei gilydd – rydw i eisiau dweud helo wrth bawb.”
Dyma’r fedal gyntaf i Brydain ennill yn Gemau Olympaidd y Gaeaf yn Vancouver eleni.