Mae’r penderfyniad gan Lywodraeth Cymru i ddifa Moch Daear er mwyn ceisio rhwystro’r diciâu rhag lledu mewn gwartheg yn un groes i reswm, honnwyd heddiw.
Yn ôl y Dr Chris Cheeseman, mae’r penderfyniad yn mynd yn erbyn tystiolaeth wyddonol sy’n dangos y gallai difa’r anifeiliaid gwyllt yma waethygu’r sefyllfa.
Mae’r cyn bennaeth ymchwil i salwch anifeiliaid yn y Labordy Gwyddonol Canolog wedi galw ar y Llywodraeth i beidio â pharhau gyda’r difa arbrofol yng ngogledd Sir Benfro.
Wrth siarad ar raglen Eye on Wales BBC Radio Wales, dywedodd Dr Cheeseman fod penderfyniad y Llywodraeth yn mynd yn erbyn tystiolaeth wyddonol, ac y gallai’r difa waethygu’r sefyllfa.
Mae’n dweud y gallai’r difa wneud pethau’n waeth, gyda’r anifeiliaid yn dianc o’r ardal a lledu’r clefyd.
Pum mlynedd
Bydd y difa yn dechrau yn y gwanwyn, ac yn rhan o raglen bum mlynedd i ymladd y diciâu yn benna’ yng ngogledd Sir Benfro, ond hefyd mewn rhan o Geredigion a Sir Gaerfyrddin.
Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud fod ymchwil yn dangos y byddai’r difa yn gymorth i amddiffyn gwartheg rhag y diciâu ac fe fydd yn digwydd ochr yn ochr â rheolaeth lymach ar fuchesi hefyd.
Oherwydd hynny, meddai Chris Cheeseman, does dim modd mesur yn iawn i weld a yw’r difa’n gweithio.
Gwrthod y feirniadaeth a wnaeth Llywodraeth y Cynulliad, gan ddweud bod prif fudiadau milfeddygon yn cefnogi’r bwriad.