Mae chwaraewr newydd Morgannwg, Shaun Tait, wedi ennill gwobr seren y gêm Awstralia am yr ail gêm yn olynol.
Curodd Awstralia India’r Gorllewin mewn gêm ugain pelawd ryngwladol ar y Bellrive Oval yn Hobart.
Fe ddaw’r perfformiad yma dair wythnos wedi iddo serennu yn erbyn Pacistan yn Melbourne, lle cipiodd tair wiced oddi ar yr ymwelwyr.
Unwaith eto fe gipiodd Tait tair wiced yn erbyn India’r Gorllewin, gyda’i lwyddiant yn cychwyn gyda wiced y capten, Chris Gayle, wrth i’r ymwelwyr geisio cyrraedd targed o 180 o rediadau.
Dilynodd Tait hynny’n syth gyda’i ail wiced mewn dwy bêl gan gymryd wiced Narsingh Deonarine.
Fe ddaeth y drydedd wiced yn ystod ei belawd ddilynol i roi Tait ar ffigurau o 3/14 wedi dwy belawd.
Bydd Shaun Tait yn ymuno gyda’r Dreigiau i chwarae yng nghystadleuaeth ugain pelawd dros yr haf.
Bydd Morgannwg yn cychwyn cystadleuaeth y Tlws ugain pelawd yn erbyn Swydd Caerloyw ar 4 Mehefin.